Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad o £96 yn cael ei gymeradwyo ar gyfer prosiectau mawr yn Abertawe

Bydd cae chwaraeon CYMUNEDOL, ardaloedd chwarae i blant, datblygiadau yng nghanol y ddinas ac amddiffynfeydd môr yn y Mwmbwls yn derbyn buddsoddiadau mawr dros y misoedd nesaf.

play area opening cheers

Mae Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo gwario dros £750,000 ar ei raglen uwchraddio ardaloedd chwarae sydd eisoes wedi gweld dros 50 o gymdogaethau'n derbyn siglenni, rowndabowts a chyfleusterau eraill newydd.

Clustnodwyd tua £235,000 hefyd i wella ystafelloedd newid Mynydd Newydd sy'n agos at y gwelliannau diweddar i faes 3G Bryn Tawe. Dyrannwyd £217 ychwanegol hefyd i greu mynedfeydd newydd ym Marchnad Abertawe.

Yn ogystal â hyn, mae'r cam nesaf yn y gwaith i adfywio Gwaith Copr yr Hafod yn derbyn £18.5m ychwanegol er mwyn adfer adeilad labordy'r ardal.

A bydd y gwaith parhaus i ddatblygu hwb cymunedol canol y ddinas ac amddiffynfeydd môr y Mwmblws yn rhannu tua £25m wrth i'r rhaglenni parhau dros y flwyddyn sydd i ddod.

Cymeradwywyd adroddiad ar wariant cyfalaf arfaethedig o dros £96m yn Abertawe dros y flwyddyn nesaf yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn ar 6 Mawrth. Daw'r arian o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys benthyca, derbyniadau cyfalaf a grantiau gan y Fargen Ddinesig a Llywodraethau Cymru a'r DU.

Close Dewis iaith