Ysgolion i elwa o gronfa cynnal a chadw
Ysgolion yn bennaf fydd yn elwa o fuddsoddiad sy'n werth bron £3.8m gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru mewn gwelliannau cynnal a chadw ac adeiladu hanfodol yn y ddinas yn ystod y flwyddyn sy'n dod.
Mae Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen waith bwysig ac mae'n golygu y bydd tua £1.7m yn cael ei gyfeirio at fwy na dwsin o ysgolion er mwyn cynnal gwaith i adnewyddu neu atgyweirio toeon, gwaith uwchraddio trydanol a gwelliannau eraill.
Mae adeiladau eraill sy'n eiddo i'r cyngor a fydd yn gweld buddsoddiad yn cynnwys Neuadd y Ddinas a chanolfan gymunedol y Trallwn.
Clustnodwyd £50,000 ychwanegol ar gyfer strategaeth toiledau'r cyngor ar ben £100,000 y llynedd i gynnal a chadw a gwella rhwydwaith toiledau cyhoeddus y Cyngor.
Mae £600,000 hefyd wedi'i glustnodi ar gyfer argyfyngau yn ogystal ag arian i gynnal adeiladau rhestredig, gan gynnwys cofebau rhyfel Abertawe y mae'r Cyngor wedi addo eu cynnal ar ran cyn-filwyr.