Casgliadau gwastraff arbennig ac eitemau swmpus
Gall casgliad arbennig fod yn eitem unigol, yn hanner llwyth neu'n llwyth cyfan ar gyfer eitemau nad ystyrir fel gwastraff cyffredinol a ddarperir i gwsmeriaid â chontract gwastraff presennol gyda'r cyngor yn unig.
Bydd swyddog masnachol yn ymweld â'ch adeilad i asesu faint o wastraff a'r math o wastraff sydd gennych i'w waredu neu fel arall, darparwch luniau a meintiau'r eitemau i'w gwaredu. Yna byddwn yn gallu pennu pris ar gyfer y casgliad. Bydd hyn yn seiliedig ar yr amser y bydd hyn yn ei gymryd, maint y cerbyd y bydd ei angen arnom a'r costau gwaredu o ganlyniad. Byddwn yn trefnu casgliad pan dderbynnir cais trwy e-bost yn cytuno i'r pris ac anfonebir y busnes am y gwasanaeth hwn.
Yn addas ar gyfer:
- casgliadau unigol ar gyfer eitemau sy'n rhy fawr i'w rhoi mewn bin
- celfi
- oergelloedd/rhewgelloedd (codir tâl unigol am y rhain, gan ddibynnu ar eu maint)
- cyfarpar cyfrifiadurol (codir tâl unigol ar gyfer setiau teledu a monitorau)
I sicrhau bod eich eitemau'n cael eu casglu mae'n rhaid i chi:
- roi'r eitemau a ddisgrifiwyd gennych wrth drefnu'r casgliad allan yn unig
- rhowch yr eitemau allan i'w casglu ar ymyl y ffordd rhwng 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu a 7.00am ar fore eich diwrnod casglu
- ceisio cadw eitemau'n sych a pheidio â'u gadael allan am amser hir ym mhob tywydd. Os ydych yn gadael eitem allan a allai amsugno dŵr (e.e. matres neu soffa), gorchuddiwch hwy. Gall eitemau gwlyb fod yn rhy drwm i'w codi ac ni chesglir hwy.
NI FYDDWN yn casglu:
- eitemau sy'n rhy drwm i'r criw casglu eu codi'n ddiogel
- eitemau o du mewn yr eiddo oni bai y cytunwyd ar hyn ymlaen llaw
- gwastraff peryglus e.e. asbestos, batris ceir, paent, tiwbiau fflwroleuol etc
- eitemau'n cynnwys gwydr neu ddrychau
- drysau allanol
- gosodion megis rheiddiaduron neu setiau ystafell ymolchi
- boeleri, poteli nwy neu danciau olew.