Gwastraff masnachol ac ailgylchu
Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau casglu a gwaredu gwastraff ac ailgylchu ar gyfer eich busnes.
Gellir eu dylunio i ddiwallu'ch anghenion gyda chynwysyddion o wahanol fathau a meintiau ac amlder y gwasanaeth casglu.
Pam dewis ein gwasanaeth casglu gwastraff masnachol?
- cyfraddau cystadleuol, contractau pris sefydlog heb gostau cudd, ac mae'r holl gostau gweinyddu gan gynnwys nodiadau trosglwyddo gwastraff WEDI'U CYNNWYS
- tîm lleol profiadol i ddelio ag ymholiadau ac i ddarparu ymgynghoriad a dyfynbris heb rwymedigaeth
- dim pris am nodyn trosglwyddo gwastraff dyletswydd gofal
- dim TAW
- gwasanaeth hyblyg.
Rheolau newydd ar gyfer ailgylchu masnachol
O 1 Hydref 2023, bydd rheolau newydd Llywodraeth Cymru yn dod i rym. Bydd angen i bob eiddo annomestig wahanu deunyddiau ailgylchadwy o wastraff arall.
Ailgylchu masnachol
Gall ailgylchu leihau'r gost i fil gwastraff blynyddol eich cwmni. Mae'r pris am wastraff sydd wedi'i ddidoli i'w ailgylchu yn llai na phris gwastraff sydd angen mynd i safle tirlenwi.
Casgliadau gwastraff arbennig ac eitemau swmpus
Gall casgliad arbennig fod yn eitem unigol, yn hanner llwyth neu'n llwyth cyfan ar gyfer eitemau nad ystyrir fel gwastraff cyffredinol a ddarperir i gwsmeriaid â chontract gwastraff presennol gyda'r cyngor yn unig.
Llogi sgipiau ar gyfer gwastraff masnachol
Rydym yn gallu darparu gwasanaeth sgipiau i fusnesau yn yr ardal leol. Mae sgipiau o wahanol feintiau ar gael ar gyfer gwastraff cyffredinol ac ailgylchu.
Talu gyda cherdyn ar-lein am sachau ailgylchu masnachol
Gallwch archebu sachau newydd ar gyfer ailgylchu papur a gwastraff bwyd, a thalu amdanynt gyda cherdyn credyd neu ddebyd, gan ddefnyddio'r ffurflen gais hon.
Trefnu casgliad gwastraff gwydr masnachol
Gallwch drefnu a thalu am gasgliad gwastraff gwydr gyda cherdyn credyd neu ddebyd gan ddefnyddio'r ffurflen gais hon.
Cysylltu â gwastraff masnachol
Os oes gennych gwestiynau am ein gwasanaeth gwastraff masnachol ac ailgylchu, cysylltwch â ni.
Sut i dalu eich anfonebau gwastraff masnachol ac ailgylchu
Os ydych yn penderfynu defnyddio gwasanaethau'r cyngor gallwch dalu'ch anfoneb mewn nifer o ffyrdd.
Storio gwastraff masnachol
Dewch o hyd i wybodaeth am storio'ch gwastraff gan ddefnyddio ein biniau gydag olwynion a'n sachau gwastraff.
Cwestiynau cyffredin am wastraff masnachol
Cwestiynau cyffredin am ein gwasanaethau gwastraff masnachol ac ailgylchu.