Castell Abertawe erbyn heddiw
Er bod y castell yng nghysgod yr adeiladau o'i gwmpas erbyn heddiw, mae'n parhau i oroesi yng nghalon y ddinas.
- Y gwaith cerrig nadd a gerfiwyd o garreg galch Sutton a gloddiwyd gerllaw Aberogwr.
- Yr holltau tal ar siâp croes, o'r enw agennau saethu, ym mur deheuol y castell, yn ogystal â'r porthdyllau gwn a ychwanegwyd yng nghanol y 14eg ganrif.
- Y brif fynedfa i'r castell a arferai fod i fyny rhes o risiau o'r cwrt - wedi eu dynodi mewn cerrig yn y pafin yn awr.
Mae teithiau y tu mewn i'r castell yn caniatáu i chi ddarganfod rhagor o gyfrinachau'r castell.
Addaswyd diwethaf ar 06 Ebrill 2022