Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cwestiynau Cyffredin

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: De-orllewin Cymru Cwestiynau Cyffredin.

Beth yw'r Gronfa Ffyniant Gyffredin?

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn rhan o ymrwymiad llywodraeth y DU i godi'r gwastad ym mhob rhan o'r DU drwy gyflawni holl amcanion codi'r gwastad:
•    Hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar ei hôl hi.
•    Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar eu gwannaf.
•    Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent wedi'u colli
•    Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y lleoedd hynny sydd heb asiantaeth leol.

Am ba mor hir y mae'r gronfa ar gael?

Y dyddiad gorffen ar gyfer cyflwyno'r rhaglen yw 31 Rhagfyr 2024.


Pwy sy'n gyfrifol am ei rheoli yn fy ardal i?

Mae'r rôl o oruchwylio'r rhaglen ranbarthol gyfan wedi'i rhoi i Gyngor Abertawe, ond bydd yr holl awdurdodau lleol yn cydlynu ac yn rheoli prosiectau yn eu hardaloedd lleol. 


Faint o arian sydd ar gael yn ne a gorllewin Cymru?

Dyfarnwyd £132 miliwn i dde-orllewin Cymru. 

 

Pwy sy'n elwa o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin?

Bydd pobl, busnesau a chymunedau'n elwa o ddyraniad o £132 miliwn o gyllid i Dde-orllewin Cymru gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Pwy all wneud cais i'r gronfa?

Gall unrhyw sefydliad a gyfansoddwyd yn gyfreithiol wneud cais am gyllid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Os bydd sawl sefydliad yn ymwneud â chyflwyno prosiect, rhaid i un chwarae rôl y Partner Arweiniol.  

Ni all busnesau a phreswylwyr unigol wneud cais am gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar eu pennau eu hunain, ond gallent elwa o weithgarwch a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a ddarperir gan un o'r partneriaid.

Gallai hyn gynnwys:
•    Rhaglenni hyfforddiant
•    Cyngor ar fusnes
•    Datblygu asedau cymunedol
•    Gwelliannau i'r parth cyhoeddus

Bydd gwybodaeth am brosiectau'n cael ei hysbysebu ar-lein a'i rhannu â rhanddeiliaid perthnasol 
Mae sefydliadau sydd wedi'u lleoli/wedi'u cofrestru y tu allan i'r rhanbarth yn gymwys i wneud cais am gyllid, ond mae'n rhaid i'r holl weithgarwch a gefnogir a'r broses o gyflwyno'r prosiect ddigwydd yn ardaloedd Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro neu Abertawe yn Ne-orllewin Cymru.

Beth gellir ei ariannu?

Mae gwariant cyfalaf a refeniw yn gymwys o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ond bydd hyn yn amrywio fesul thema a fesul galwad agored i brosiectau o ran yr hyn sydd ar gael.

Mae gwariant cyfalaf yn cyfeirio at gyllid a ddefnyddir i gaffael, adeiladu neu uwchraddio asedau ffisegol.  

Mae gwariant refeniw yn cyfeirio at dreuliau sefydliadol parhaus sydd eu hangen yn benodol wrth gynnal yr ymyriadau/gweithgarwch y Gronfa Ffyniant Gyffredin a nodir yn y cais a gymeradwywyd.

Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:
•    Costau staff (gan gynnwys cyflog, Yswiriant Gwladol a phensiwn)
•    Costau teithio a chynhaliaeth sy'n gysylltiedig â'r prosiect
•    Costau deunyddiau
•    Costau marchnata a chyhoeddusrwydd
•    Costau hyfforddi cyfranogwyr e.e. costau teithio, gofal plant

Beth na ellir ei ariannu?

Rhaid i bob prosiect sy'n cael ei ariannu dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin gyfrannu at Gynllun Buddsoddi Rhanbarthol De-Orllewin Cymru a chynlluniau economaidd lleol perthnasol.

Ni ellir ystyried prosiectau sy'n dyblygu'r prosiectau angori.

Yn ogystal, NID yw'r costau canlynol yn gymwys am gymorth o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin:

• Taliadau am waith neu weithgareddau y mae gan yr Awdurdod Arweiniol, cyflwynydd y prosiect, y buddiolwr terfynol, neu unrhyw aelod o'u partneriaeth ddyletswydd statudol i'w cyflawni, neu a ariennir yn llawn gan ffynonellau eraill;

•    Gwaith lobïo y telir amdano; sy'n golygu defnyddio arian grant i ariannu gwaith lobïo (drwy gwmni allanol neu staff mewnol) er mwyn ymgymryd â gweithgareddau y bwriedir iddynt ddylanwadu ar weithgarwch y Senedd, y Llywodraeth neu weithgarwch gwleidyddol; neu geisio dylanwadu ar gamau deddfwriaethol neu reoleiddiol; 
•    Defnyddio arian grant i alluogi un rhan o'r llywodraeth yn uniongyrchol i herio un arall ar bynciau nad ydynt yn gysylltiedig â diben y grant y cytunwyd arno; 
•    Defnyddio arian grant i gyflwyno deiseb am arian ychwanegol; 
•    Treuliau fel ar gyfer diddanu; wedi'u hanelu'n benodol at ddylanwadu'n ormodol er mwyn newid polisi'r llywodraeth; 
•    TAW adenilladwy gan CThEF; Mae TAW na ellir ei hadennill gan CThEF yn gost gymwys; 
•    Taliadau am weithgareddau o natur plaid wleidyddol neu grefyddol yn unig; 
•    Taliadau llog neu daliadau tâl gwasanaeth ar gyfer prydlesi cyllid; 
•    Anrhegion neu daliadau am anrhegion neu roddion; 
•    Dirwyon statudol, dirwyon troseddol neu gosbau; 
•    Dyledion drwg i bleidiau cysylltiedig; 
•    Taliadau am ddiswyddo annheg neu iawndal arall; 
•    Costau dibrisiant neu amorteiddiad; 
•    Cronfeydd wrth gefn a rhwymedigaethau digwyddiadol 
•    Difidendau; 
•    Costau sy'n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr; 
•    Costau sydd ynghlwm wrth ddirwyn cwmni i ben; 
•    Treuliau cyfreithiol mewn perthynas ag ymgyfreitha; 
•    Costau yr aeth unigolion iddynt wrth sefydlu a chyfrannu tuag at gynlluniau pensiwn preifat; 
•    Taliadau sy'n torri neu sy'n groes i'r cytundeb ariannu neu ddeddfwriaeth y DU;
•    Stoc i'w werthu ymlaen.

Ydw i'n cael cyflwyno cais yn Gymraeg? 

Ydych, gallwch gyflwyno cais yn Gymraeg. Ymdrinnir â cheisiadau a dderbynnir yn Gymraeg  i'r un safonau ag amserlenni â'r rheini a dderbynnir yn Saesneg. 

Ydy'r gronfa'n gallu talu 100% o gostau'r prosiect?

Bydd rhai ceisiadau'n cael eu cymeradwyo gyda chyllid ar gyfer 100% o gostau'r prosiect er bod arian cyfatebol yn cael ei annog i ddangos aliniad ac i ychwanegu effaith ychwanegol at ddarpariaeth arall.

Bydd angen i geisiadau o'r sector preifat gael arian cyfatebol o'u hadnoddau eu hunain. Rhaid gallu dilysu arian cyfatebol - ni all fod yn seiliedig ar amcangyfrifon na chostau cyfle a gollwyd/cyfraddau codi tâl. Mae ffurflen Arian Cyfatebol y bydd angen ei llenwi a'i chyflwyno gyda'r ffurflen gais. 

Sut mae TAW yn cael ei chyfrifo o fewn y grant?

Os yw sefydliad wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, ni all hawlio'r elfen TAW o unrhyw wariant. Er enghraifft, os yw'n gwario £60,000 (yn prynu peiriant am £50,000 + TAW) dim ond yn erbyn y gost net o £50,000 y gall y sefydliad hawlio.

Os nad yw sefydliad wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, gall hawlio yn erbyn y gost gros. Yn yr enghraifft uchod byddai'r £60,000 llawn yn cael ei drin fel y gost gymwys.

Oes unrhyw gyfyngiadau ar gostau penodol e.e. cyflog a gorbenion? 

Rhaid i gyflogau a gynhwysir fel gwariant prosiect fod yn gostau gwirioneddol ac ni allant gynnwys cyfraddau dydd. Rydym yn annog ymgeiswyr i ddefnyddio methodoleg costau symlach i gyfrifo cyflogau er mwyn safoni prosesau a lleihau'r baich gweinyddol i bartïon.

Gall staff sy'n gweithio 100% o'u hamser ar y prosiect arfaethedig gynnwys eu cyflog gros llawn o fewn hawliadau'r prosiect. Bydd hyn yn cynnwys cyflog gros (cyn didyniadau) ynghyd â chostau ychwanegol fel cyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr, ac unrhyw gostau ychwanegol sydd wedi'u cynnwys yng nghontract y gweithwyr.

Mae'n bosib cyfrifo costau staff sy'n gysylltiedig ag unigolion sy'n gweithio rhan o'u hamser ar brosiect fel canran sefydlog o'r costau cyflogaeth gros, yn unol â chanran sefydlog o amser a dreulir yn gweithio ar y prosiect y mis, heb unrhyw ofyniad i gwblhau taflenni amser. 

Gall Darparwyr Prosiect hawlio gorbenion ar sail 15% o gostau staff yn unig. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw fethodolegau eraill ar gyfer cyfrifo gorbenion.  Mae hyn yn cwmpasu'r costau yr eir iddynt wrth gyflawni prosiect ond nad ydynt yn hawdd eu priodoli iddo drwy anfonebau neu drafodion eraill e.e. 
•    staff cymorth/swyddogaethau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â gweithredu a rheoli'r prosiect
•    costau eiddo a rennir neu ddefnydd o offer

Nid oes angen unrhyw dystiolaeth i ddangos sut y defnyddir y cyfraniad at orbenion.

Nid oes angen olrhain/archwilio'r holl gostau ar gyfer dogfennau ategol unigol - dyma'r pwynt allweddol ar gyfer costau symlach gan ei fod yn lleddfu'r baich gweinyddol yn sylweddol.

Nid oes cyfyngiad ar werth cost cyflog na chanran unrhyw brosiect y gellir ei ddyrannu i gostau cyflog sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni'r prosiect.

Fodd bynnag, mae angen gosod y gyfradd gyflog a delir am unrhyw swydd benodol ar lefelau sy'n gymesur â'r tasgau a gyflawnir a bydd angen tystiolaeth bod y gyfradd gyflog a ddewiswyd yn debyg i rolau tebyg eraill yn y sefydliad sy'n ymgeisio a/neu'r farchnad lafur ehangach.  

Beth yw'r rheolau o ran caffael? 

Rhaid i'r holl gostau sy' cael eu hawlio gan yr ymgeisydd arweiniol a/neu bartneriaid cyflenwi a enwir fod ar sail y gost wirioneddol. Os yw'r grant yn cael ei ddefnyddio i gaffael contractwyr trydydd parti, rhaid i'r holl gostau gydymffurfio â'r safonau gofynnol canlynol:
•    Rhaid i'r prif ymgeisydd (p'un a yw'n awdurdod contractio ai peidio) sicrhau bod y broses o gaffael pob contractwr yn dryloyw ac yn dangos gwerth am arian;
•    Lle bo'r ymgeisydd arweiniol yn awdurdod contractio, rhaid iddo sicrhau bod yr holl weithgarwch caffael yn cydymffurfio â Chyfraith Caffael Cyhoeddus (sydd wedi'i chynnwys ar hyn o bryd yn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015); Pob deddf arall sy'n berthnasol i'r gweithgarwch a gyflawnir, gan gynnwys a heb fod yn gyfyngedig i Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, IR35 (Deddfwriaeth Cyfryngwyr), Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022, etc.; ac 
•    Meysydd cydymffurfio eraill fel Asesu Risgiau Twyll a Diwydrwydd Dyladwy.

Gweithdrefnau Gweithgarwch Gofynnol ar gyfer Awdurdodau Heb Gontract

Gwerth y      

Contract

 

Y weithdrefn leiaf

 

£0 - £2,499

Dyfarniad uniongyrchol ar yr amod bod gwerth am arian wedi'i ystyried.

£2,500 - £24,9993 dyfynbris ysgrifenedig wedi'u ceisio gan gyflenwyr nwyddau, gwaith a/neu wasanaethau addas.

Dros £25,000

Proses dendro ffurfiol

Bydd y gwaith caffael a phenodi'r holl gontractwyr sydd i'w hariannu drwy'r grant arfaethedig yn destun archwiliad a dilysiad a bydd unrhyw afreoleidd-dra yn arwain at gosb ariannol o hyd at 100% o'r grant a delir.

Argymhellir yn gryf fod ymgeiswyr yn adolygu eu gweithdrefnau caffael eu hunain i sicrhau eu bod yn unol â chanllawiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar gael yma 

Gellir dod o hyd i'r rheolau caffael ar ein gwefan. Sicrhewch eich bod yn darllen hwn ac yn ymateb yn briodol i Ran 4 o'r ffurflen gais, sy'n ymwneud â chaffael. 
Nid oes angen i ymgeiswyr gwblhau'r broses gaffael cyn cyflwyno'u cais, ond rhaid i chi sicrhau eich bod yn caniatáu digon o amser i gaffael yn amserlenni eich prosiect.

Bydd angen i ymgeiswyr arweiniol gadw tystiolaeth i ddangos bod y rheolau caffael wedi'u dilyn a fydd yn rhan o'r broses fonitro.

Sut byddwn yn talu grantiau unwaith y byddant wedi'u cymeradwyo? 

Mae ein proses hawlio'n gweithredu bob chwarter yn unol â ffenestr adrodd Llywodraeth y DU. Yr arfer safonol fydd i grantiau gael eu talu mewn ôl-daliadau unwaith y bydd y gwariant gwirioneddol wedi'i wneud a'r arian wedi'i dalu.

Unwaith y derbynnir hawliad cyflawn yn erbyn gwariant cymwys fel y disgrifir yn y cais, byddwn yn talu'r grant i brosiectau (yn amodol ar wiriadau dilysu). 
Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir dod i gytundeb lle gellir talu rhan o'r grant cyn i'r gwariant gael ei dalu. Os yw derbynwyr grant yn gofyn am delerau talu arbennig byddwn yn cynnal asesiad risg gan ystyried cyflwr ariannol y sefydliad.

Pa wiriadau ariannol y bydd Cyngor Abertawe'n eu cynnal?

Rhaid i ymgeiswyr prosiect allu darparu llwybr archwilio i ddangos tystiolaeth bod gwariant wedi'i wneud a'i dalu (wedi'i dalu o gyfrif banc y sefydliad sy'n ymgeisio). Fel rhan o'r broses hawliadau chwarterol, bydd y cyngor yn cynnal gwiriad sampl o leiafswm o 5 i 10% o wariant, gan ddewis nifer o drafodion o bob hawliad. Bydd gofyn i dderbynwyr ddarparu tystiolaeth ategol i wirio gwariant. Gall tystiolaeth gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:
•    Anfonebau
•    Slipiau cyflog
•    Llythyrau Secondiad
•    Cipluniau o systemau ariannol
•    Adroddiadau BACS
•    Cyfriflenni banc 

Beth yw'r rheolau ynghylch Rheoli Cymhorthdal 

Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod unrhyw brosiect/raglen a gyflwynir yn cydymffurfio â chyfundrefn Rheoli Cymhorthdal y DU a bydd angen i bob ymgeisydd prosiect ddarparu datganiad yn cadarnhau a yw'r cyllid a ddyfarnwyd yn cyfrif fel cymhorthdal ac os felly, sut mae ei brosiect yn cydymffurfio â'r gyfundrefn Rheoli Cymhorthdal newydd y DU. Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir am farn gyfreithiol hefyd i ddarparu'r sicrwydd sydd ei angen. 

Sylwer y dylai'r datganiad a ddarperir, a lle y bo'n briodol, y cyngor cyfreithiol atodol, gynnwys y ffaith bod yr ymgeisydd wedi derbyn y cyllid gan y cyngor ac unrhyw drosglwyddiad dilynol o'r cyllid hwnnw i drydydd partïon.

Beth yw uchafswm y cyllid y gall prosiect wneud cais amdano?

Bydd pob galwad ar gyfer prosiectau'n nodi pa gyllid sydd ar gael a bydd yn amrywio fesul thema.

Pa fathau o arian cyfatebol sy'n gymwys?

Yn wahanol i rai cronfeydd, ni fydd angen arian cyfatebol ym mhob achos, er y byddai arian cyfatebol gan y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn mwyafu gwerth am arian, yn gwella effaith y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac yn dangos cydweddiad â'r blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol eraill.Mae'n bosib y bydd angen arian cyfatebol ar brosiectau o'r sector preifat (lleiafswm o tua 10% o gyfanswm cost y prosiect yn amodol ar gyngor rheoli cymhorthdal  a natur y buddsoddiad) - e-bostiwch SPF@abertawe.gov.uk cyn cyflwyno'ch cais.

Sut mae'r broses ymgeisio'n gweithio?

Bydd eich cais yn cael ei dderbyn drwy fewnflwch SPF@abertawe.gov.uk a chaiff ei gydnabod gan y tîm drwy e-bost. Bydd y cais yn cael ei wirio am gymhwysedd cyn ei drosglwyddo i'r Panel Asesu perthnasol i'w sgorio a'i drefnu gan ddefnyddio'r Ffurflen Asesu. Bydd y Tîm Adfywio wedyn yn gwneud argymhellion i'r Cabinet i'w cymeradwyo cyn dweud wrth yr ymgeisydd am y penderfyniad. 

A oes unrhyw gymorth ar gael gyda'r broses ymgeisio?

Mae'r Arweiniad Ymgeisio yn darparu help wrth ateb pob un o gwestiynau'r cais. Os oes angen cymorth ychwanegol, gall ymgeiswyr e-bostio SPF@abertawe.gov.uk i wneud ymholiad. Bydd aelod o dîm y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn hapus i egluro unrhyw agweddau ar y ffurflen sy'n aneglur a byddant yn eich cyfeirio at arweinydd tîm neu prosiect angori lleol perthnasol, fodd bynnag, sylwer nad oes mentora manwl unigol ar gael. 

Pwy sy'n asesu ceisiadau ar gyfer y gronfa?

Aelodau Panel Asesu'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer pob awdurdod lleol fydd yn asesu ceisiadau grant. Mae'r panel yn cynnwys unigolion o ystod amrywiol o sectorau a grwpiau diddordeb. 

Faint o amser y mae'r broses asesu'n ei gymryd?

Rhagwelir y bydd y broses yn cymryd hyd at 12 wythnos i'w chwblhau.


A allaf gyflwyno mwy nag un cais?

Gall sefydliadau gyflwyno ceisiadau lluosog i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Gallai hyn fod yn un sefydliad sy'n ceisio cyllid ar gyfer dau brosiect gwahanol sy'n cyd-fynd â gwahoddiadau agored ar wahân neu'n un prosiect sy'n ceisio cyllid ar gyfer gwahanol elfennau o'r prosiect hwnnw sy'n cyd-fynd â gwahoddiadau agored gwahanol. 

Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y bydd gan bob cyflwyniad ffurflen gais ar wahân, y bydd yn cael ei werthuso'n unigol, a bydd ganddo gytundeb ariannu ar wahân gydag allbynnau a chanlyniadau penodol i'w cyflawni. 

Ni all ymgeiswyr gyfrif allbynnau a chanlyniadau ddwywaith, e.e. os caiff un swydd ei chreu ac adroddir amdani o fewn un prosiect, ni ellir ei chyfrif eto mewn un arall. Os ydych yn bwriadu cyflwyno mwy nag un cais ar gyfer cyflawni rhannau unigol o brosiect mwy, e-bostiwch yr awdurdod perthnasol cyn ei gyflwyno.  
Ni allwn dderbyn un ffurflen gais sy'n cynnwys ceisiadau wedi'u cyfuno ar gyfer cynnig gwahoddiadau lluosog. 

Sut mae prosiectau'n hawlio'u grantiau?

Mae prosiectau'n gwneud hawliadau ôl-weithredol chwarterol i'w hawdurdodau lleol. Darperir amserlenni hawliadau i brosiectau llwyddiannus sy'n manylu ar pryd y disgwylir pob hawliad.

Beth yw'r gofynion adrodd?

Yn ogystal â hawliad ariannol chwarterol, rhaid i bob prosiect gyflwyno adroddiad cynnydd chwarterol i'w hawdurdod lleol. Dylai hyn gynnwys cerrig milltir ac allbynnau a gyflawnwyd, a thystiolaeth o allbynnau.

Pa allbynnau a chanlyniadau y disgwylir i brosiectau eu cyflawni?

Disgwylir i brosiectau gyflawni'r allbynnau a'r canlyniadau a nodir yn eu cais a amlinellir yn Atodiad A y cais i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Bydd y rhain wrth gwrs yn amrywio rhwng prosiectau. Rhagwelir y bydd nifer yr allbynnau a'r canlyniadau a gyflawnir yn briodol ar gyfer lefel y cyllid y gofynnwyd amdano.

A oes gofyniad ar gyfer gwerthuso o fewn prosiectau?

Oes, cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw trefnu ei werthusiad ei hun. Bydd CLlLC yn edrych ar y broses a sut y caiff ei gweithredu. Bydd Panel Gwerthuso'n cynnwys gwirfoddolwyr a fydd yn cyfarfod ym mis Chwefror ar gyfer prosiectau angori ac yng nghanol/diwedd mis Mawrth ar gyfer galwad agored a darparu rhagor o fanylion. 

Pa mor hir yw'r cyfnod cadw dogfennau gofynnol?

Mae'n rhaid bod gan ymgeiswyr Brotocolau Rhannu Data ar waith a bydd pob awdurdod lleol a Chyngor Abertawe fel arweinydd rhanbarthol, yn monitro ar sail samplau.

Rhaid cadw pob dogfen (gan gynnwys enghreifftiau fel cofnodion monitro, cofnodion dysgwyr, gwybodaeth caffael, anfonebau etc.) am 7 mlynedd o ddiwedd y prosiect. Os ydych yn cadw cofnodion digidol yn unig, rhaid i chi sicrhau bod gennych chi system ffeilio electronig ddiogel ac wrth gefn lle mae stamp dyddiad ar bob ffeil ac ni ellir ei diwygio na'i dileu'n ddiweddarach. Ffefrir copïau PDF. Rhaid i'r holl ddogfennaeth fod yn hygyrch ac mewn fformat sy'n addas ar gyfer archwiliad allanol.

Os oes angen caniatâd cynllunio ar brosiect nad yw wedi'i gymeradwyo'n ffurfiol, a ellir cyflwyno cais am gyllid?

Gellir, gallwch gyflwyno cais heb fod pob caniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo'n ffurfiol, ond po fwyaf o ganiatadau statudol sydd gennych, fel caniatâd cynllunio, caniatâd landlordiaid, a chaniatâd adeilad rhestredig, gorau y bydd eich cais yn sgorio o ran y gallu i'w gyflawni.