Tyregen UK Ltd, Ystad Ddiwydiannol Westfield, Uned 2, Waunarlwydd SA5 4SF
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar benderfyniad drafft am gais am Drwydded Rhan 2A o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Hysbysiad drafft o benderfyniad i wrthod cais am drwydded - yn unol â Pharagraff 13(2)(b), Atodlen 5 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016.
Y gosodiad arfaethedig yw peiriant llosgi gwastraff bach (SWIP).
Yn unol â Pharagraff (3), Is-adran 17, Atodlen 5 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, mae'r ddogfen penderfyniad ddrafft hon yn cynnwys y rhesymau dros wrthod y cais am drwydded.
Draft determination report (PDF, 3 MB)
Gellir cyflwyno sylwadau am y ddogfen penderfyniad ddrafft i'r tîm rheoli llygredd a thai'r sector preifat yng Nghyngor Abertawe drwy e-bostio pollution@abertawe.gov.uk o fewn 20 niwrnod gwaith, sef 29 Gorffenaf 2025.
Bydd y ddogfen hon yn destun ymgynghoriad rhwng 29 Gorffenaf 2025 a 25 Awst 2025.
Os nad yw'r cyngor yn derbyn unrhyw sylwadau, bydd penderfyniad y cyngor yn derfynol a hysbysir yr ymgeisydd o fewn 5 niwrnod gwaith o ddiwedd y cyfnod cyflwyno sylwadau.
Os yw'r cyngor yn derbyn sylwadau, bydd yn cwblhau ei benderfyniad ac yn hysbysu'r ymgeisydd a'r cyhoedd drwy wefan Cyngor Abertawe o fewn 15 niwrnod gwaith o ddiwedd y cyfnod cyflwyno sylwadau neu gyfnod hwy y gall y cyngor gytuno arno â'r ymgeisydd.