Y ddinas yn dathlu cyfraniad y genhedlaeth Windrush
Mae cymunedau yn y ddinas wedi bod yn dathlu cyflawniadau'r Genhedlaeth Windrush mewn digwyddiad arbennig yn Neuadd Brangwyn Abertawe.
Drwy gerddoriaeth, dawns a darllediad arbennig o raglen ddogfen am eu cyfraniad i Gymru, mae 'Windrush Cymru@75' wedi dod â'u hanes yn fyw o flaen
cynulleidfa wadd. Bydd y digwyddiad hefyd yn lansio Cangen Abertawe o Hanes Pobl Dduon Cymru 365 ar yr un diwrnod.
Dywedodd yr Athro Uzo Iwobi CBE o Gyngor Hil Cymru, cynhyrchydd y rhaglen ddogfen sy'n adrodd hanes 32 person allan o'r miloedd o bobl eraill sydd wedi sefydlu eu dyfodol yng Nghymru, fod y digwyddiad yn ddigwyddiad coffáu ac yn gydnabyddiaeth o'r genhedlaeth Windrush, eu plant, eu hwyrion a'u gorwyrion.
Meddai, "Mae straeon y genhedlaeth Windrush yn straeon o Gymru. Ni ellir gorbwysleisio nac anghofio cyfraniad y genhedlaeth Windrush i'n GIG, ein rheilffyrdd, ein gwaith dur a sawl maes arall.
"Roedd yn syndod i nifer pan gyrhaeddon nhw yma i glywed gan rai pobl nad oeddent yn perthyn, er eu bod yn Ddinasyddion Prydeinig. Ond nid oedd hynny wedi eu rhwystro nhw na'u teuluoedd, rydym i gyd yn dal i fod yn rhan o'r gwaith y maen nhw wedi'i ddechrau.
"Mae'n anodd dweud beth fyddai wedi digwydd pe na bai'r genhedlaeth Windrush wedi ateb y galw gan Brydain i ddod draw er mwyn helpu i ailadeiladu trefi, dinasoedd a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
"Fel y mae digwyddiadau heno wedi dangos, mae'n gyfraniad sy'n parhau hyd heddiw, ac a fydd yn parhau yn y blynyddoedd i ddod."
Ychwanegodd, "Hoffwn ddiolch i bobl Abertawe a Chymru am eu cefnogaeth.
Mae pobl yn haeddu parch, ni waeth o ble maen nhw'n dod, ac fel Dinas Hawliau Dynol a Dinas Noddfa, mae'r ddinas yn parhau i chwarae ei rhan mewn dathlu a
chefnogi amrywiaeth."
Ymhlith y rheini a siaradodd yn nigwyddiad ddoe yn Neuadd Brangwyn oedd sylfaenydd Hynafiaid Windrush Cymru, Roma Taylor, Dr Mahaboob Basha o Brifysgol Abertawe, Cadeirydd Cyngor Hil Cymru, Y Barnwr Ray Singh CBE, a Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe.
Goleuwyd goleuadau allanol Neuadd Brangwyn a Neuadd y Ddinas yn goch, yn wyrdd, yn las ac yn felyn, sef lliwiau Hynafiaid Windrush Cymru.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae gan Abertawe draddodiad balch o groesawu cymunedau o bob rhan o'r byd i'n dinas. Mae cyfraniad y genhedlaeth Windrush i fywyd economaidd, diwylliannol a chymdeithasol ein dinas a'n gwlad wedi bod yn anferth dros y blynyddoedd.
"Dyna pam roedd y cyngor yn falch o gynnal darllediad arbennig o 'Windrush Cymru
@75', a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, sy'n dogfennu ac yn dathlu straeon a chyfraniadau'r genhedlaeth Windrush.
"Roedd y digwyddiad yn Neuadd Brangwyn yn gyfle i ddod ynghyd, i ddysgu gwersi ac i rannu uchelgeisiau ar gyfer cymunedau amrywiol ein dinas yn y blynyddoedd i ddod."