Cewynnau golchadwy
Bydd cewynnau golchadwy yn lleihau nifer y sachau du rydych yn eu defnyddio ac yn arbed arian. A byddwn ni'n rhoi hyd at £100 i chi at gost prynu cewynnau golchadwy.
Dros ddwy flynedd a hanner, bydd pob babi'n defnyddio tua 5,000 o gewynnau sy'n llenwi 156 o sachau du, sef pwysau car teulu arferol. Y gost i'r rhieni yw rhwng £700 a £1,300 ar gyfer cewynnau tafladwy.
Mae mwy a mwy o rieni'n newid i gewynnau golchadwy wrth sylweddoli y gallan nhw haneru gwastraff eu teulu ac arbed cannoedd o bunnoedd ar yr un pryd.
Mae canfyddiad bod cewynnau golchadwy yn waith caled, ond does dim rhaid iddyn nhw fod. Gyda dyluniadau modern heddiw, peiriannau golchi a defnydd leinwyr y gellir eu rhoi yn y tŷ bach, ni all defnyddio cewynnau golchadwy fod yn haws.
Cynllun ad-daliad cewynnau golchadwy
Newidiwch i ddefnyddio cewynnau golchadwy a byddwn yn rhoi hyd at £100 i chi tuag at y gost!
Amodau a thelerau'r cynllun talebau cewynnau go iawn
- Derbynnir ceisiadau gan breswylwyr Dinas a Sir Abertawe yn unig. Efallai gofynnir am dystiolaeth o hyn os na chaiff ei ddangos yn y dogfennau ategol a ddarperir.
- Derbynnir un cais y plentyn yn unig gan riant neu warcheidwad cyfreithiol.
- Mae'n rhaid i riant neu warcheidwad cyfreithiol sydd wedi'i enwi ar y dystysgrif geni neu'r ffurflen MAT B1 brynu'r cewynnau ailddefnyddiadwy, oni chytunir fel arall.
- Derbynnir ceisiadau am blant hyd at 18 mis oed yn unig.
- Mae'n rhaid i brawf prynu ddangos yn glir y prynwyd cewynnau ailddefnyddiadwy. Gall hyn hefyd gynnwys ategolion cewynnauailddefnyddiadwy ond nid fel yr unig bryniad.
- Mae'n rhaid i brawf prynu fod yn 6 mis oed neu'n llai, a rhaid iddo fod gan ffynhonnell achrededig e.e. masnachwr ar-lein neu'r stryd fawr.
- Mae cewynnau ail law yn gymwys ar gyfer y cynllun os gellir dangos prawf o'u prynu trwy ddogfennaeth ddilys, e.e. taleb PayPal neu eBay. Ni chaiff talebau / anfonebau a ysgrifennwyd â llaw eu derbyn fel dogfennaeth ddilys.
- Rhaid i dystysgrifau geni / MAT B1 fod yn ddarllenadwy heb unrhyw newidiadau.
- Mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw'r hawl i atal talu os ystyrir bod unrhyw un o'r amodau uchod heb eu bodloni.
- Ni fydd Dinas a Sir Abertawe yn derbyn cyfrifoldeb dros golli unrhyw gais am unrhyw reswm.