Clybiau chwaraeon ffyniannus yn barod i dderbyn hwb gwerth £1m gan y Cyngor
Gall clybiau chwaraeon ffyniannus yn nifer o feysydd chwarae cymunedol sy'n eiddo i'r Cyngor dderbyn hwb yn ystod y misoedd nesaf diolch i fenter newydd gwerth £1m i wella ystafelloedd newid.
Bydd y penderfyniad gan Gyngor Abertawe i neilltuo arian i wella ystafelloedd newid ym meysydd chwarae prysur yn gweld cyfleusterau'n cael eu hatgyweirio, eu moderneiddio a'u tacluso fel canolfannau chwaraeon cymunedol sydd ar gael i'r gymuned gyfan.
Mae'n dod wrth i'r Cyngor hefyd gynllunio i ychwanegu £1m at gronfa gwella cymunedau cynghorwyr y gallant ei defnyddio i wneud gwahaniaeth ym mhob ward yn y ddinas.
Cyflwynwyd y prosiect ystafelloedd newid yn ystod cyfarfod cyllideb Cyngor Abertawe'r mis diwethaf a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn. Bydd adroddiad yn ceisio cyllid ar gyfer y cynllun yn cael ei weld gan y Cabinet yr wythnos nesaf.
Os caiff yr adroddiad ei gymeradwyo, bydd £1m ychwanegol hefyd y bydd cynghorwyr yn gallu gwneud cais ar ei chyfer i gefnogi rhagor o brosiectau a chynlluniau cymunedol yn eu hardaloedd.
Ar hyn o bryd, mae cynllun cyllideb y gymuned yn caniatáu i bob aelod unigol wario hyd at £15,000 y flwyddyn ar brosiectau cymwys.
Yn y gorffennol mae cynghorwyr wedi dyrannu adnoddau i gynlluniau gan gynnwys darparu diffibrilwyr, ymestyn cynlluniau plannu blodau gwyllt lleol, cefnogi digwyddiadau cymunedol a gwelliannau strydlun bach fel gwella gerddi cymunedol neu ddarparu seddi cyhoeddus.