Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnesau a phreswylwyr i elwa o barcio rhad yng nghanol y ddinas yn y flwyddyn i ddod

Mae ymrwymiad Cyngor Abertawe i ddarparu parcio rhad yng nghanol y ddinas yn cael ei gynnal am flwyddyn arall.

car park sign swansea

Gall y rheini sy'n ymweld â chanol y ddinas - p'un a ydynt yn siopwyr, yn weithwyr canol y ddinas neu'n dwristiaid - barcio am £1 yr awr, hyd at uchafswm o £5 am ddiwrnod llawn a chodir tâl o £2 am ddiwrnod llawn ar Suliau.

Cytunwyd ar y mesur yng nghyfarfod y Cyngor Llawn yn ddiweddar fel rhan o benderfyniad y cyngor i gefnogi busnesau a phreswylwyr fel y'i gilydd drwy'r argyfwng costau byw.

Close Dewis iaith