Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae gan fy mhlentyn anabledd - chwilio am gefnogaeth

Ceir sefydliadau a gwefannau sy'n cynnig amrywiaeth eang o wybodaeth, adnoddau a chefnogaeth.

Yr hyn sydd bwysicaf i rieni yw bod y cymorth a'r gefnogaeth y maent yn eu derbyn yn hawdd eu cyrraedd. Weithiau gall hyn olygu cânt eu cyfeirio at lenyddiaeth a gwefannau perthnasol, ond ar adegau eraill, nid yw rhiant yn gwybod lle i droi ac ar yr adegau hynny mae'n bosib y bydd angen i chi siarad â rhywun neu gael y cyfle i gwrd â  rhieni a gofalwyr eraill.

Dyversity Group Local Aid

Mae grŵp Dyversity yr elusen 'Local Aid' yn cynnal sesiynau wythnosol i blant a phobl ifanc o bob oed sydd ag awtistiaeth (ASA) ar nosweithiau Llun yn FOYD (Friends of Young Disabled) 300 Carmarthen Road, Abertawe. Gall pobl ifanc a'u teuluoedd gwrdd, cael hwyl a bod yn nhw eu hunain.

Chinese Autism Support

Mae Chinese Autism Support yn brosiect sydd wedi ymrwymo i gefnogi plant awtistig ethnig Tsieineaidd a'u teuluoedd sy'n byw yn Ne Cymru. Mae'r prosiect yn darparu gwasanaethau eiriolaeth amlieithog sy'n ddiwylliannol sensitif i helpu i ddatrys y problemau neu'r pryderon sydd efallai gan y plant hyn am eu haddysg, eu hiechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Awst 2021