Plant a phobl ifanc anabl
Mae Tîm Anableddau Plant y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anableddau cymedrol i ddifrifol.
Tîm arbenigol yw'r Tîm Anableddau Plant sy'n gofalu am anghenion penodol plant a phobl ifanc sydd ag anableddau. Mae'n un o'r gwasanaethau a ddarperir gan y Un pwynt cyswllt (UPC) yn Ninas a Sir Abertawe. Mae'r tîm yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cefnogi teuluoedd. Maent yn gweithio'n agos gyda nifer o weithwyr proffesiynol gwahanol, gan gynnwys ymwelwyr iechyd, gweithwyr cefnogi iechyd a therapyddion galwedigaethol.
Mae'r Tîm Anableddau Plant yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc pan fo:
- Gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gysylltiedig â hwy oherwydd eu hanabledd yn bennaf.
- Effaith eu hanabledd wedi'i hasesu'n ddifrifol neu'n ddwys.
- Angen gwasanaeth arbenigol arnynt oherwydd eu hanabledd.
Mae'r tîm yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau sy'n ceisio darparu gwasanaethau amrywiol i roi gwybodaeth a chyngor cynhwysfawr, i gefnogi datblygiad plant anabl, ac i gynorthwyo plant a'u teuluoedd i fyw bywydau mor llawn â phosib.