Toglo gwelededd dewislen symudol

Gadewch i ni i gyd wneud ein rhan i gadw canol y ddinas yn daclus.

Mae ymwelwyr â chanol y ddinas yn cael eu hannog i chwarae eu rhan wrth helpu i gadw canol ein dinas yn lân yr haf hwn.

city centre litter after 1

city centre litter before 1

Drwy'r flwyddyn gron, mae timau glanhau'r Cyngor allan ben bore ar ôl y noson gynt, yn glanhau ar ôl y dathlwyr sydd wedi gollwng eu gwastraff a'u bwyd dros ben, yn aml lle'r oeddent yn sefyll.

Mae'r dasg y mae'r tîm yn ei chyflawni bob dydd, 364 diwrnod y flwyddyn, gan gasglu hyd at 25 tunnell o'r  Stryd Fawr yn y dwyrain, yn ogystal â mannau poblogaidd yng nghanol y ddinas fel Wind Street, Stryd Rhydychen a Ffordd y Brenin.

Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, ei fod wedi gweld sut beth yw noson allan yng nghanol dinas Abertawe a'r hyn y mae timau'r cyngor yn eu hwynebu yn oriau mân y bore.

"Mae'r tîm yn gwneud gwaith gwych o ddydd i ddydd yn clirio'r lle yn y bore ar ôl y noson gynt. Ar foreau prysur bydd saith neu wyth o gerbydau'n codi popeth o 15 i 25 tunnell o wastraff.

"Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gadw canol ein dinas mor lân â phosibl ac mor glir o wastraff â phosib, gan dreulio tua £3m y flwyddyn yn y broses.

"Mae amgylchedd nos ffyniannus gennym yng nghanol y ddinas. Rydym am i bobl fwynhau eu hunain, cael hwyl a dychwelyd adref yn ddiogel ac yn iach.

"Ein neges i'r rheini sydd ar noson mas yw: peidiwch â thaflu sbwriel - rhowch e' mewn bin neu ewch ag e' adref gyda chi.

Drwy gydol y dydd, mae'r Cyngor yn anfon peiriannau sgubo a thimau o gwmpas canol y ddinas yn rheolaidd i glirio sbwriel sy'n cael ei daflu yn ystod y dydd, yn enwedig bwyd gwastraff, bonion sigaréts a gwm cnoi.

Meddai'r Cyng. Anderson, "Mae'r Cyngor yn gwneud ei ran wrth gadw canol y ddinas yn lân. Byddem yn annog ymwelwyr, preswylwyr a busnesau i wneud eu rhan hefyd. Dyw hi ddim gymhleth iawn: os na allwch chi ddod o hyd i fin, ewch â'ch sbwriel adref gyda chi."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Gorffenaf 2024