Dewch i ni gadw'n traethau'n lân yr haf hwn
Mae pobl sy'n mynd i'r traeth yn cael eu hannog i wneud y peth iawn a mynd â'u sbwriel adref gyda nhw yn ystod y tywydd poeth a heulog.
Daw apêl Cyngor Abertawe wrth i gyfnod parhaus o dywydd poeth gyrraedd a fydd yn annog preswylwyr ac ymwelwyr i heidio i lan y môr a pharciau'r ddinas i fwynhau'r haul.
Mae rhagolygon yn disgwyl i'r tymheredd fynd yn uwch na 30 gradd dros y penwythnos ac i amodau aros yn gynnes yr wythnos nesaf hefyd.
Yn ystod misoedd prysur yr haf mae'r cyngor wedi bod yn cynyddu casgliadau sbwriel ar y traeth, yn cynyddu nifer y biniau sydd ar gael ac yn cynyddu pa mor aml mae swyddogion gorfodi'n ymweld â'r traethau y mae'n eu rheoli.
Bydd staff ychwanegol yn cael eu defnyddio'r penwythnos hwn i fynd i'r afael â phroblemau sbwriel ar draethau a pharciau oherwydd y cynnydd a ragwelir yn nifer yr ymwelwyr a byddant yn dosbarthu bagiau sbwriel i unrhyw un sydd eisiau am gael un.
Mae'r cyngor wedi cyflwyno 15 o finiau coch newydd fel y gall pobl gael gwared ar eu barbeciws tafladwy'n ddiogel ar ei draethau prysuraf.
Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod y cyngor yn chwarae ei ran i gadw traethau a pharciau'n lân drwy gydol y cyfnod poeth wrth i filoedd lawer anelu am lan môr Abertawe a Gŵyr.
Meddai, "Rydym yn chwarae ein rhan ni, ond mae angen i ymwelwyr chwarae eu rhan hefyd. Mae'n gwbl annerbyniol bod pobl yn credu ei fod yn iawn claddu poteli gwydr, barbeciws neu unrhyw wastraff arall yn y tywod ar ddiwedd diwrnod mas.
"Os ydych chi ar y traeth ac yn gweld bod y biniau'n llawn, ewch â'ch sbwriel adref gyda chi yn lle. Os ydych chi'n gweld aelod o'n tîm sbwriel yn codi'r gwastraff, gofynnwch iddo am eich bag eich hun. Byddant yn hapus i rannu."