Toglo gwelededd dewislen symudol

Dewch i gael eich talu am gadw ein traethau'n lân yr haf hwn

Cynigir cyfle i bobl dreulio amser yn rhai o leoliadau mwyaf golygfaol Abertawe ar brynhawniau yn y gwanwyn a'r haf - a chael eu talu am wneud hynny.

Caswell Bay and coast path.

Mae Cyngor Abertawe yn recriwtio 13 o weithredwyr glanhau tymhorol a fydd yn gyfrifol am helpu i gadw rhai o'n lleoliadau twristaidd mwyaf poblogaidd yn lân yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf.

Bydd y swydd dymhorol, a fydd yn para 6 mis, yn rhedeg o fis Ebrill i fis Medi, sef cyfnod prysuraf y flwyddyn ar gyfer ymweliadau â thraethau fel Bae Langland, Bae Abertawe, Bae Caswell a Phorth Einon. Mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno'u ceisiadau erbyn 21 Chwefror.

Darganfyddwch fwy yma.