Clwb gofal plant / cynllun chwarae yn ystod y gwyliau
Mae clybiau / cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau'n darparu gofal i blant 4 i 14 oed, trwy weithredu yn ystod gwyliau'r ysgol ac ambell waith yn ystod diwrnodau HMS ysgolion.
Gall plant 3 oed eu mynychu, ond mae hyn yn dibynnu ar y math o gofrestru ac yswiriant sydd gan y clwb/cynllun chwarae. Bydd cyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, a darperir diodydd a byrbrydau cyson i'r plant drwy'r dydd. Fel arfer, darperir cinio pecyn gan y rhieni a dylid ei gadw'n ddiogel.
Fel arfer caiff clybiau/cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau eu cynnal mewn ysgolion neu adeiladau cymunedol, a gallant fod dan reolaeth ysgol, pwyllgor rheoli gwirfoddol neu unigolion fel busnes preifat.
Rheoli'r clwb / cynllun chwarae yn ystod y gwyliau
Mae'n rhaid i reolwr clwb gael o leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd a chymhwyster lefel 3 cydnabyddedig gan Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol Cyngor Gofal Cymru (e.e. addysg blynyddoedd cynnar neu waith chwarae priodol i'r swydd ac oedran y plant).
Newidiadau i ddod i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir
Hysbysiad ymlaen llaw ynghylch newidiadau i ofynion staff o ran cymwysterau o fis Medi 2021.Mae'r newidiadau'n ymwneud â Safonau Gofal Dydd 13.6 (GD) a 13.7 (GD), o ran y cymwysterau gofynnol ar gyfer Personau â Gofal a staff nad ydynt yn goruchwylio mewn gwasanaethau gofal plant a chwarae a reoleiddir ar gyfer plant rhwng 0 a 12 mlwydd oed.
Mae'r diwygiad dros dro i Safon 13.6 (GD) ynghylch cymwysterau gofynnol Personau â Gofal ar gyfer cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau hefyd wedi'i ffurfioli. Nid oes unrhyw newidiadau i'r gofynion ar hyn o bryd ar gyfer gwarchodwr plant, na gwasanaethau gofal plant cofrestredig sy'n gofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
Cytunwyd ar y gofynion ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru a SkillsActive, y cynghorau sgiliau sector sy'n gyfrifol am y sectorau gofal plant a chwarae yng Nghymru. Mae'r cyfnod arwain a bennwyd i weithluoedd gofal plant a chwarae ar gyfer cyrraedd y cymwysterau chwarae gofynnol yn dod i ben ym Mis Medi 2021.
Mae rhagor o fanylion ar gael restr Gofal Cymdeithasol Cymru o'r cymwysterau gofynnol i weithio mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a rhestr SkillsActive o'r cymwysterau gofynnol i weithio yn y sector gwaith chwarae yng Nghymru.Gall darparwyr weld y cylchlythyr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni.
Y staff:
- Dylai 50% o'r gweithwyr chwarae sy'n weddill fod a chymhwyster lefel 2 mewn gofal plant neu feysydd gwaith chwarae perthnasol. Mae'n rhaid i weithwyr chwarae sydd heb brofiad blaenorol dderbyn hyfforddiant ar chwarae a phwysigrwydd mathau gwahanol o chwarae i ddatblygiad plant. Os na ellir cyflawni hyn ar unwaith, bydd y person cofrestredig yn amlinellu cynllun gweithredu yn manylu ar sut maent yn bwriadu bodloni'r meini prawf a chytuno ar amserlen i'w gyflawni. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd) yn ystyried y cynllun ac yn cynnig ei gymeradwyaeth neu'n nodi agweddau y mae angen eu gwella.
- Mae'n rhaid i'r holl staff dderbyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
Mae Clybiau Plant Cymru (Yn agor ffenestr newydd) Kids' Clubs a'r Tim Chwarae i Blant yn cynnig cymorth i sefydlu a chefnogi cynlluniau chwarae, clybiau chwarae a darpariaeth chwarae debyg arall.
I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Clybiau Plant Cymru (Yn agor ffenestr newydd) or the Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD).