Clwb gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol (brecwast a / neu glwb ar ol ysgol)
Mae clybiau gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol yn gofalu am blant rhwng 4 a 14 oed.
Mae clybiau'n gweithredu union cyn a/neu ar ol y diwrnod ysgol. Gall plant 3 oed fynychu'r clwb, ond mae hyn yn dibynnu ar y math o gofrestriad ac yswiriant sydd gan y clwb.
Mae clyubiau'n lleoedd hwyl, diogel ac ysgogol i blant chwarae er mwyn i'w rhieni/gofalwyr weithio neu hyfforddi. Gellir darparu brecwast i blant yn y bore neu fyrbryd yn y prynhawn ac mae'n rhaid i'r plant gael diodydd yn rheolaidd.
Fel arfer caiff clybiau gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol eu cynnal mewn ysgolion neu adeiladau cymunedol, a gallant fod dan reolaeth ysgol, pwyllgor rheoli gwirfoddol neu unigolion fel busnes preifat.
Rheoli'r clwb y tu alla i oriau'r ysgol
Mae'n rhaid i reolwr clwb gael o leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd a chymhwyster lefel 3 cydnabyddedig gan Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol Cyngor Gofal Cymru (e.e. addysg blynyddoedd cynnar neu waith chawarae priodol i'r swydd ac oedran y plant).
Y staff:
- Dylai 50% o'r staff sy'n weddill fod a chymhwyster gofal plant lefel 2 gan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Os na ellir cyflawni hyn ar unwaith, bydd y person cofrestredig yn amlinellu cynllun gweithredu yn manylu ar sut maent yn bwriadu bodloni'r meini prawf a chytuno ar amserlen i'w gyflawni. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd) yn ystyried y cynllun ac yn cynnig ei gymeradwyaeth neu'n nodi agweddau y mae angen eu gwella.
- Mae'n rhaid i'r holl staff dderbyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
Mae clybiau gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol fel arfer yn aelodau o Glybiau Plant Cymru Kids' Clubs (Yn agor ffenestr newydd).