Toglo gwelededd dewislen symudol

Plant yng Nghlydach yn dathlu ychwanegiad newydd i'w parc

Mae plant yng nghymuned Clydach wedi cael ardal chwarae newydd sbon.

Mae Parc Coed Gwilym yng Nghlydach eisoes yn gyrchfan poblogaidd iawn yn y gymuned ac yn gartref i ganolfan treftadaeth a gwybodaeth, rhan o Gamlas Tawe a chyfleusterau sy'n amrywio o gyrtiau tennis a chaeau pêl-droed i lwybrau cerdded a llwybr BMX.

Mae ei ardal chwarae i blant bellach wedi elwa o raglen uwchraddio ardaloedd chwarae gwerth £7 miliwn y ddinas, ac fe'i hagorwyd yn swyddogol ddoe gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart.

Mae hyn yn golygu bod dros 50 o gymdogaethau o gwmpas y ddinas wedi elwa o'r prosiect adnewyddu ardaloedd chwarae sydd fel arfer yn cynnwys cyfleusterau i bobl ifanc anabl fel rowndabowtiau sy'n gyfwastad â'r llawr, llithrennau llydan, siglenni basged a byrddau cyfathrebu.