Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cofrestrwch eich busnes bwyd

Mae'n rhaid i bob busnes bwyd gael ei gofrestru cyn dechrau unrhyw weithrediadau bwyd.

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i holl weithredwyr busnesau bwyd gofrestru eu heiddo (h.y. pob uned ar wahân o'u busnesau bwyd sy'n ymwneud â chamau cynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd) gyda'r awdurdod lleol priodol o leiaf 28 niwrnod cyn dechrau gweithrediadau bwyd. Gwelir y gofyniad cyfreithiol i gofrestru yn Erthygl 6(2) Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ar hylendid bwyd.

Mae adeiladau bwyd yn cynnwys bwytai, gwestai, caffis, siopau, archfarchnadoedd, ffreuturiau staff, ceginau mewn swyddfeydd, ystordai, gwestai bach, cerbydau dosbarthu, cerbydau bwffe ar drenau, stondinau marchnadoedd a stondinau eraill, faniau cŵn poeth a hufen iâ, etc.

Os ydych yn gweithredu sefydliadau busnes bwyd mewn mwy nag un ardal Awdurdod Lleol, rhaid i chi gofrestru pob sefydliad gyda phob awdurdod ar wahân. Dylai gweithredwyr busnesau bwyd teithiol megis faniau hufen iâ, faniau byrgers etc. gofrestru'r cerbyd gyda'r Awdurdod Lleol y cedwir y cerbyd yn ei ardal fel arfer.

A oes unrhyw eithriadau?

Mae rhai gweithgareddau bwyd wedi'u heithrio rhag cofrestru, oherwydd nad yw Rheoliadau'r UE yn berthnasol iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • tyfu neu gynhyrchu bwyd at ddefnydd domestig preifat, er enghraifft cadw ieir i gyflenwi wyau i'ch teulu eich hunan
  • paratoi, trin neu storio bwyd domestig at ddefnydd domestig preifat.

Os ydych yn ansicr a ddylech gofrestru ai peidio, cysylltwch â'r tîm diogelwch bwyd.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Cofrestrwch eich busnes bwyd ar-lein Cofrestrwch eich busnes bwyd ar-lein

Mae'n rhaid i chi lenwi pob rhan o'r ffurflen gais. Nid oes ffi ar gyfer hyn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pan fyddwn yn derbyn eich cofrestriad, byddwn yn cysylltu â chi gyda chyngor ar gyfer busnesau newydd. Cynhelir archwiliad dirybudd o'ch mangre maes o law.

Beth sy'n digwydd os rwy'n cau'r busnes bwyd neu'n newid sut mae'r busnes yn gweithredu?

Mae'n rhaid i chi sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am eich sefydliadau busnes bwyd gennym ar bob adeg a dylech roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau gweithredu sylweddol, neu os yw busnes yn cau. Dylid cyflwyno hysbysiadau o'r fath, yn ysgrifenedig fyddai orau a chyn gweithredu'r newid, a ddim hwyrach na 28 niwrnod ar ôl gweithredu'r newid.

Dylai'r gweithredwr busnes newydd roi gwybod am newid gweithredwr sefydliad busnes bwyd.

Beth sy'n digwydd i'r wybodaeth a roddir ar y ffurflen?

Bydd yr wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen yn cael ei chadw ar gronfa ddata'n unol â'r Ddeddf Diogelu Data.

Mae'n ofynnol ein bod yn cadw rhestr o'r holl sefydliadau busnes bwyd sydd wedi cofrestru â ni. Mae'r rhestr ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd ar amserau rhesymol. Mae'r rhestr yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am bob busnes bwyd:

  • enw'r busnes bwyd
  • cyfeiriad y sefydliad busnes bwyd
  • manylion a natur y busnes bwyd

Gallwn hefyd roi neu anfon copi o'n rhestr neu unrhyw sefydliad arni i unrhyw un sy'n gwneud cais am y fath wybodaeth.

 

Caniatâd Dealledig

Mae gennym gyfnod cwblhau targed, sef 5 niwrnod ar gyfer yr hysbysiad hwn. Rydym yn ceisio cydnabod eich cais a dechrau ei brosesu o fewn y cyfnod hwn. Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl y cyfnod hwn, cewch weithredu fel pe bai'ch cais wedi'i ganiatáu.

Sylwer bod y cyfnod targed hwn ond yn dechrau pan fyddwn yn derbyn cais cyflawn, gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol.

 

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch cais, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk.

Close Dewis iaith