Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofrestru Etholiadol i Fyfyrwyr

Fel myfyriwr, gallwch gofrestru yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor ac yn y cyfeiriad rydych yn byw ynddo y tu allan i'r tymor.

Mae llawer o fyfyrwyr ar goll o'r gofrestr etholiadol sy'n golygu nad ydych yn cael dweud eich dweud am sut reolir pethau.  Defnyddir y gofrestr etholiadol hefyd i Gyfeirnodi Credyd wrth brynu rhai eitemau, fel ffonau symudol neu agor cyfrif banc. Mae rhai cyflogwyr hefyd yn gwirio Cyfeirnod Credyd. 

Rhaid i chi gofrestru er mwyn gallu pleidleisio mewn etholiadau a refferenda.  Mae'r ffordd rydych yn cofrestru i bleidleisio wedi newid yn 2014.

Mae'r system newydd yn golygu:

  • Gallwch bellach gofrestru ar-lein.
  • Mae pawb yn gyfrifol am gofrestru eu hunain. Dan yr hen system, gallai 'pennaeth pob aelwyd' gofrestru pawb a oedd yn byw yn y cyfeiriad hwnnw.
  • Rhaid i chi ddarparu ychydig fanylion i gofrestru, gan gynnwys eich rhif yswiriant gwladol a'ch dyddiad geni. Mae hyn yn gwneud y gofrestr etholiadol yn fwy diogel. 

Mae cofrestru i bleidleisio'n gyflym, yn hawdd ac yn ddiogel:

  1. Ewch i Cofrestru i bleidleisio (Yn agor ffenestr newydd)
  2. Nodwch eich enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni a rhai manylion eraill. Bydd angen hefyd eich rhif yswiriant gwladol, sydd ar eich cerdyn yswiriant gwladol, neu waith papur swyddogol, megis slipiau talu neu lythyrau am fudd-daliadau neu gredydau treth.
  3. Cadwch lygad am gadarnhad gan y Gwasanaethau Etholiadol i ddweud eich bod wedi cofrestru.

A allaf bleidleisio ddwywaith - gartref ac yn y brifysgol?

Mae'n drosedd pleidleisio ddwywaith mewn etholiad cyffredinol yn y DU. Hyd yn oed os ydych chi wedi cofrestru mewn dwy ardal - gartref ac yn y brifysgol - gallwch bleidleisio unwaith yn unig mewn etholiad cyffredinol.

Fodd bynnag, os yw eich cyfeiriadau cartref a phrifysgol mewn dau awdurdod lleol gwahanol, gallwch bleidleisio mewn etholiadau lleol yn y ddwy ardal.

Close Dewis iaith