Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofrestru tir comin

Rydym yn cadw'r cofrestrau ar gyfer tir comin a meysydd trefi neu bentrefi o fewn Dinas a Sir Abertawe ac mae gennym ddyletswydd statudol i gynnal y cofrestrau hyn.

Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe'n Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965 a Deddf Tir Comin 2006.

Swyddogaethau gweinyddol yn unig sydd gan y Gwasanaeth Cofrestru Tir Comin. Gellir darparu gwybodaeth ynghylch gweithdrefnau ond lle bo angen cyngor cyfreithiol, bydd rhaid caffael hynny'n annibynnol.

Rhestri pob darn o dir comin a meysydd trefi neu bentrefi yn y cofrestrau o dan rif uned unigryw. Rhennir y gofrestr ar gyfer pob uned yn dair rhan:

  1. Tir - mae hyn yn cynnwys disgrifiad o'r tir a gofrestrwyd fel comin neu faes tref neu bentref a map cofrestru diffiniol.
  2. Hawliau - mae hyn yn cynnwys disgrifiad o'r hawliau tir comin (e.e. hawl i nifer penodol o da byw bori, e.e. 50 dafad a 10 buwch), ym mha ardal o'r comin y gellir gwneud hyn ac ar ba dir y mae'r hawliau hyn yn berthnasol.
  3. Perchnogaeth - mae hyn yn cynnwys manylion perchnogion y tir a gofrestrwyd (os ydynt yn hysbys). Fodd bynnag, nid yw cofnodion yn yr adran hon o'r cofrestrau yn cael eu hystyried yn derfynol yn ôl y gyfraith.

 

Chwiliadau

Chwiliadau tir comin

Cynhelir chwiliadau tir comin i bennu a yw eiddo ar dir comin neu'n gyfagos â thir comin. Os ydych am i ni chwilio drwy'r Gofrestr Tir Comin, bydd angen ffurflen CON 29(O) (Ymchwiliadau Dewisol yr Awdurdod Lleol) arnoch. Darperir y ffurflenni hyn gan Ddogfenwyr Cyfreithiol. Mae Cwestiwn 22 yn ymdrin yn benodol â thir comin a meysydd trefi a phentrefi. Dylai'r ffurflen gynnwys cynllun wedi'i ddyblygu, ar fap Arolwg Ordnans (OS) os yn bosib, yn nodi'r ardal i'w chwilio.

Gallwch wneud cais am chwiliad mewn dwy ffordd:

  • fel rhan o chwiliad pridiannau tir lleol lle cyflwynir y ffurflen CON29(R) (Ymchwiliadau Gofynnol yr Awdurdod Lleol) a ffurflen CON29(O) gyda'i gilydd; neu
  • fel chwiliad annibynnol ar y ffurflen CON29(O) (lle caiff ei chyflwyno heb y ffurflen CON29(R)). 

Yna byddwn yn cynnal y chwiliad ac yn anfon y canlyniad yn ôl atoch o fewn 4-5 niwrnod gwaith.

Fel arall, efallai y byddwch yn dewis cynnal chwiliad personol lle gallwch wirio'r Gofrestr Tir Comin eich hun. Fodd bynnag, dylech nodi y bydd rhaid gwneud apwyntiad. Ni chodir tâl am chwiliadau personol.

Chwiliadau hawliau pori

Cynhelir chwiliadau hawliau pori i bennu a oes gan dir fudd hawliau dros dir comin. Ni chaiff chwiliadau hawliau pori eu cynnwys mewn ffurflen statudol; ond drwy anfon llythyr a chynllun ymlaen y gellir ateb yr ymholiad am hawliau.

Ffïoedd chwilio

 

Math o chwiliad neu ymholiadFfi 2024-2025
Ffurflen CON29(O) (chwiliad annibynnol)£49.90
Chwiliad personolAm ddim
Chwiliadau hawliau pori£70.46

Ffïoedd prynu copi o gofrestr tir comin neu ei fap cofrestru

Copïau gofynnolFfi 2024-2025
Detholiad o fap cofrestru£16.75
Map cofrestru llawn£22.52
Cofrestr tir comin ysgrifenedig£13.28 am y 10 dudalen gyntaf a £0.87 y dudalen wedyn

Dylid gwneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe'.

Cwblhau chwiliad tir comin drwy'r post

  Bydd rhaid i chi anfon y dogfennau canlynol i'r tîm cofrestru tir comin:

  1. Ffurflen CON29(O) wedi'i chwblhau a'i dyblygu (ar gael gan Ddogfenwyr Cyfreithiol).
  2. Map wedi'i ddyblygu yn nodi'r ardal o dir i'w chwilio, ar fap OS os yn bosib. 
  3. Y ffi berthnasol (gweler uchod).

Byddwn yn cynnal y chwiliad ac yn anfon canlyniad atoch o fewn 4-5 niwrnod gwaith.

 

Gweithio ar dir comin

Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch datblygu neu gynnal gwaith (e.e. ffensio) ar dir comin i Arolygiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru sy'n pennu achosion o'r fath o dan ddarpariaeth statudol Deddf Tiroedd Comin 2006.

 

Ceisiadau, diweddariadau a chywiriadau

Gellir cyflwyno ceisiadau amrywiol i gofrestru maes tref neu bentref newydd (o dan Adran 15 o Ddeddf Tir Comin 2006) neu i gywiro gwallau mewn cofrestrau tir comin.

Mae rhagor o wybodaeth a ffurflenni cais ar gael o: Tir comin (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Mathau o geisiadau a ffïoedd
CaisAt ba ddibenFfi 2024-2025
Dosraniad Ffurfiol o dan Ddeddf 1965
Cais i ddiwygio’r gofrestr (ffurflen CR 19) (PDF) [144KB]
Dosrannu hawliau yn y gofrestr pan mae'r tir y mae'r hawliau yn gysylltiedig iddo wedi'i rannuDim ffi
Adran 15 o Ddeddf Tir Comin 2006Cofrestru maes tref neu bentref newyddDim ffi
Adran 19 (2) (a) neu (c) o Ddeddf 2006Cywiro camgymeriad a wnaed gan yr awdurdod cofrestru neu ddileu cofnod dyblyg o'r gofrestrDim ffi
Adran 19 (2) (b) o Ddeddf 2006Cywiriad, at ddiben a ddisgrifir yn adran 19(2)(b) h.y. cywiro unrhyw gamgymeriad, lle na fyddai'r newid yn effeithio ar:
(i) faint unrhyw dir a gofrestrwyd fel tir comin neu fel maes tref neu bentref; neu
(ii) yr hyn y gellir ei wneud yn rhinwedd hawl tir comin
£353.43
Adran 19 (2) (d) neu (e) o Ddeddf 2006Cywiriad, i ddiweddaru manylion unrhyw enw neu gyfeiriad, neu i roi ystyriaeth i ychwanegiad neu grebachiant£58.91
Atodlen 2, paragraff 2 neu 3, o Ddeddf 2006Peidio cofrestru tir comin neu faes tref neu bentref (h.y. heb gofrestru a dylai fod wedi'i gofrestru)Dim ffi
Atodlen 2, paragraff 4, o Ddeddf 2006Tir gwastraff maenordy heb gofrestru fel tir comin (h.y. heb gofrestru a dylai fod wedi'i gofrestru)Dim ffi
Atodlen 2, paragraff 5, o Ddeddf 2006Maes tref neu bentref sydd wedi cofrestru'n anghywir fel tir cominDim ffi
Atodlen 2, paragraff 6-9, o Ddeddf 2006Dadgofrestru tir neilltuol sydd wedi'i gofrestru fel tir comin neu fel maes tref neu bentref drwy gamgymeriad£2356.20

 

Hysbysiadau cofrestru tir comin

Ceisiadau a dderbynnir ar gyfer ychwanegiadau i'r gofrestr tir comin.

Swyddog Cofrestru Tir Comin

Enw
Swyddog Cofrestru Tir Comin
Rhif ffôn
07966 169811

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Ebrill 2024