Pridiannau tir lleol
Rydym yn cynnal chwiliadau tir lleol sy'n rhan o'r broses trawsgludo eiddo. Mae'n galluogi prynwyr eiddo arfaethedig a benthycwyr morgais i gael gwybodaeth sydd gennym am eiddo.
Mathau o chwiliadau
Chwiliadau personol
Chwilio'r gofrestr pridiannau tir lleol yn unig a cheisiadau cynllunio cymeradwy ar y gofrestr gynllunio. Dylid gwneud cais am wybodaeth o gofrestrau cyhoeddus eraill gan adrannau unigol. Anfonir y canlyniadau dros e-bost.
Ar hyn o bryd, mae Dinas a Sir Abertawe'n gweithredu'n unol â'r ddogfen "Chwiliadau Personol: Arweiniad i Awdurdodau Lleol a Chwilwyr Personol (2005)."
Rhagor o wybodaeth am y chwiliad hwn a sut i wneud cais: Chwilio am bridiannau tir lleol o Gofrestrfa Tir EM (Yn agor ffenestr newydd)
Chwiliad LLC1
Mae chwiliad LLC1 yn hysbysu darpar brynwyr am gyfyngiadau ar ddefnyddio'r eiddo, megis gorchmynion cadw coed, hysbysiadau gorfodi, caniatâd cynllunio a ffïoedd ariannol.
Rhagor o wybodaeth am y chwiliad hwn a sut i wneud cais: Chwilio am bridiannau tir lleol o Gofrestrfa Tir EM (Yn agor ffenestr newydd)
Chwiliadau CON29
Mae chwiliadau CON29 a CON29(O) yn darparu gwybodaeth gan gynnwys cynlluniau lleol, mabwysiadu ffyrdd a chynlluniau ffyrdd etc.
I gael mwy o wybodaeth am CON29 cysylltwch â'r swyddfa pridiannau tir lleol.
Pan na fydd gwybodaeth yn rhan o'r gofrestr statudol, dogfen neu gofnod cyhoeddus, rydym wrthi'n ceisio gwneud mwy o'r wybodaeth honno ar gael (am bris) cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib, yn unol â'r ddogfen "Chwiliadau Personol o Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a chofnodion eraill a gedwir gan Awdurdodau Lleol (2008)."
Rydym yn aros am unrhyw arweiniad neu benderfyniadau polisi canlyniadol a allai godi drwy ddogfen ymgynghori'r llywodraeth ar fynediad i wybodaeth. Rydym hefyd yn aros am ganlyniadau gwaith yr ymgymerir ag ef ynghylch tri opsiwn y Swyddfa Masnachu Teg (SMT) ar gyfer trefn codi tâl i gael mynediad i a/neu ddarparu gwybodaeth a wneir ar hyn o bryd ar ran Llywodraeth Ganolog mewn ymateb i adroddiad SMT Rhagfyr 2006 o ran y Farchnad Chwiliadau Eiddo.
Chwiliad iechyd yr amgylchedd
Gwybodaeth am eiddo penodol neu wybodaeth bellach am rybudd neu ffi ariannol a ddatgelir ar y gofrestr sy'n ymwneud â mater iechyd yr amgylchedd fel llygredd, tai, iechyd y cyhoedd, tai amlfeddiannaeth, rhai materion gwastraff a bwyd a diogelwch etc.Tynnir sylw at broblemau yn yr ardal sy'n amgylchynu eiddo dim ond os ydynt yn ymwneud yn benodol â'r eiddo hwnnw. Er enghraifft os bydd problemau draenio mawr ar y ffordd, caiff y costau i unioni'r broblem eu rhannu rhwng yr holl eiddo yr effeithir arnynt.
Ffïoedd a cheisiadau
Rhaid cyflwyno cais i gael canlyniadau chwiliad drwy anfon ffurflen gais drwy e-bost i'r swyddfa pridiannau tir lleol. Yn anffodus, ni allwn dderbyn ceisiadau drwy'r post.
Rydym yn ceisio dychwelyd canlyniadau chwilio o fewn 10 niwrnod gwaith. Sylwer bod angen rhoi mwy o rybudd dros wyliau banc.
Gellir cael ffurflenni CON29 o swyddfa cyfreithiwr neu gellir eu harchebu ar-lein gan ysgrifennydd cyfreithiol megis Oyez. Yn anffodus, ni allwn ddarparu ffurflenni oherwydd rheolau hawlfraint.
Gallwch gyflwyno cais ar-lein os mai dim ond chwiliad amgylcheddol yr ydych chi ei eisiau.
Gellir gweld crynodeb o'r ffioedd i'w gweld isod. Am rhestr fanylach o ffioedd cysylltwch â'r swyddfa pridiannau tir lleol
Math o chwiliad neu ymholiad | Ffïoedd cyfredol (gan gynnwys TAW) |
---|---|
CON29O Q4 i Q20 * | £18 |
CON29O Q21 i Q22 * | £37.50 |
Darn ychwanegol o dir ar gyfer CON29 | £24 |
CON29 yn unig | Preswyl £138 Masnachol £186 |
* Wrth gyflwyno ar wahân (h.y. heb CON29) ychwanegwch ffi weinyddu o £18 (gan gynnwys TAW)
Dylid talu drwy BACS ar ôl derbyn ein anfoneb fisol. Gwnewch yn siŵr bod ein rhif anfoneb wedi'i nodi pan fydd y taliad yn cael ei wneud er mwyn y gall ein hadran gyllid cysoni taliadau.
Mae ein manylion banc yw:
Cod didoli: 30-00-00
Banc Lloyds
Rhif y cyfrif: 00283290
Cyllideb dyfyniad cyf: 01 251 25027 800001 00000 000000
Cwestiynau cyffredin
Oes angen cynllun arnoch i gynnal chwiliad?Oes, bydd angen cynllun ar gyfer pob cais. Dylid cyflwyno hyn ynghyd â ffurflenni CON29 swyddogol. I osgoi oedi yn eich chwiliad, bydd angen i chi ddarparu cynllun clir sy'n diffinio'r ffiniau, ar raddfa 1:1250 yn ddelfrydol.
Ydych chi'n ymateb i ymholiadau am ddraenio?
Nac ydym. Ffoniwch Dŵr Cymru ar 01443 331063.
Ydych chi'n cyflymu chwiliadau?
Nac ydym, ni allwn gyflymu chwiliadau. Rydym yn ceisio dychwelyd canlyniadau chwilio o fewn 10 niwrnod gwaith.
Sut byddaf yn derbyn fy chwiliad?
Caiff pob chwiliad (ar wahân i NLIS) ei ddychwelyd trwy e-bost.
O ble y gellir cael copïau o ddogfennau?
E-bostiwch fanylion y ddogfen/dogfennau i ni. Codir ffi am hyn, gan ddibynnu ar faint y ddogfen.