Toglo gwelededd dewislen symudol

Ystafelloedd newid cymunedol a phrosiectau eraill yn cael hwb gwerth £2m

Mae buddsoddiad gwerth hyd at £2m mewn ystafelloedd newid mewn meysydd chwarae a phrosiectau cymunedol eraill wedi'i gymeradwyo.

play area opening cheers

Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo cynlluniau i neilltuo arian i wella ystafelloedd newid mewn meysydd chwarae prysur a fydd yn gweld cyfleusterau'n cael eu hatgyweirio, eu moderneiddio a'u tacluso fel canolfannau chwaraeon cymunedol sydd ar gael i'r gymuned gyfan.

Daw'r buddsoddiad wrth i'r Cabinet hefyd gytuno i ychwanegu £1m pellach at gronfeydd gwella cymunedol cynghorwyr y gallant ei defnyddio i wneud gwahaniaeth ym mhob ward yn y ddinas.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Ers diwedd y pandemig ac yn ystod yr argyfwng costau byw, mae llawer o glybiau chwaraeon wedi bod wrth wraidd eu cymunedau gan gefnogi iechyd a lles miloedd o bobl yng nghymdogaethau'r ddinas.

"Mae'r Cyngor wedi cydnabod eu gwerth drwy hepgor taliadau ar gyfer llogi meysydd chwaraeon ers dros flwyddyn ar ôl y pandemig i'w helpu i ailsefydlu.

"Rydym wedi bod yn siarad â chlybiau ynglŷn â'r camau nesaf ac roedd llawer yn galw am uwchraddio ystafelloedd newid fel y gallent gael eu defnyddio'n haws gan fenywod a merched yn unol â disgwyliadau cyrff llywodraethu chwaraeon."

Cyflwynwyd y prosiect ystafelloedd newid yn ystod cyfarfod cyllideb Cyngor Abertawe fis diwethaf.

Nawr bod y cyllid wedi'i gymeradwyo, bydd hefyd £1m ychwanegol ar gael y gall Cynghorwyr wneud cais amdano i gefnogi prosiectau a chynlluniau cymunedol yn eu hardal.