Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith i drawsnewid hwb cymunedol canol y ddinas i ddechrau yn yr hydref

Mae cynlluniau ar gyfer lleoliad canolog newydd yn Abertawe ar gyfer prif lyfrgell y ddinas, y gwasanaeth archifau a gwasanaethau allweddol eraill wedi cymryd cam mawr ymlaen.

community hub 18 aug 22

Mae'r cwmni adeiladu blaenllaw, Kier Construction, wedi'i benodi'n brif gontractwr i gyflwyno cam nesaf y gwaith dylunio a galluogi er mwyn helpu'r cyngor i drawsnewid hen siop BHS/What! ar Stryd Rhydychen yn hwb cymunedol a fydd yn cynnwys gwasanaethau'r cyngor a rhai cymunedol.

Bydd gwaith yn dechrau o ddifri yn yr hydref i drawsnewid yr adeilad fel y gall pobl gael mynediad hawdd at wasanaethau allweddol ar draws y cyngor a chan sefydliadau eraill.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart: "Mae'r gwaith i drawsnewid yr adeilad hwn yn hynod gyffrous. Mae'n newyddion gwych bod Kier Construction yn rhan o'r prosiect.

"Bydd yr hwb cymunedol yn creu llyfrgell newydd wych a hwb gwasanaethau lleol yng nghanol y ddinas, drws nesaf i'r gerddi newydd a gynllunnir ar gyfer Sgwâr y Castell, y mae'r cynllun yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd cyn iddo gael ei ystyried gan y pwyllgor cynllunio.

"Bydd buddion gwirioneddol i'r gymuned a'r cyngor drwy adleoli'r llyfrgell a'r gwasanaeth archifau yn ogystal â nifer o wasanaethau cymorth cyhoeddus a thrydydd parti allweddol eraill i mewn i un adeilad gydag amgylchedd agored a chroesawgar."

"Mae'r llyfrgell ganolog a'r gwasanaethau archifau presennol yn cael tua 300,000 o ymwelwyr y flwyddyn rhyngddynt, sy'n golygu y bydd nifer mawr o ymwelwyr ychwanegol yn rhoi hwb i siopau canol y ddinas a swyddi, yn ogystal â'r buddion a ddaw yn sgîl yr arena a Sgwâr y Castell, sy'n amodol ar ganiatâd cynllunio."

Meddai Jason Taylor, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Kier Construction, "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Abertawe ar brosiect arall a fydd yn cefnogi'r gymuned leol. Cyn bo hir byddwn yn dechrau ar y gwaith galluogi ar gyfer y cynllun newydd Hwb Cymunedol Abertawe, a fydd yng nghanol y ddinas ac a fydd yn darparu cyfleusterau pwysig i bobl leol.

"Gyda hanes blaenorol da am gyflawni gwerth cymdeithasol gyda Chyngor Abertawe, mae'r prosiect hwn yn darparu cyfle gwych i Kier barhau â'n gwaith yn yr ardal.

"Drwy gydol y gwaith adeiladu, byddwn yn gweithio'n agos gyda phreswylwyr, sefydliadau lleol ac ysgolion i ddarparu swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd profiad gwaith yn ogystal â gweithio gyda'n cadwyn gyflenwi leol i gyflawni'r prosiect pwysig hwn."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Awst 2022