Grantiau'r cyngor yn helpu i gadw lleoliadau cymunedol i fynd
Mae lleoliadau a grwpiau cymunedol mawr eu hangen sy'n wynebu gaeaf o filiau ynni cynyddol wedi cael help llaw gan Gyngor Abertawe.
Mae lleoliadau cymunedol lleol yn llinellau bywyd i'w cymdogaethau a grwpiau gwirfoddol, gan ddarparu cyfleusterau mawr eu hangen ar gyfer gwasanaethau fel banciau bwyd, grwpiau chwarae i blant a chyfleoedd cymdeithasu i oedolion.
Ond roedd rhai yn pryderu y byddai angen iddynt gynyddu eu costau neu leihau eu horiau agor er mwyn iddynt allu talu biliau cynyddol o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.
Nawr mae'r cyngor wedi cynnig cefnogaeth drwy ddarparu cyllid o'i Gronfa Cymorth Ynni er mwyn lleihau'r pwysau a chefnogi'r canolfannau i gadw i fynd yn ystod cyfnod lle mae eu hangen fwyaf.
Talwyd bron £115,000 i 40 canolfan gymunedol hyd yn hyn i helpu i leihau effaith prisiau ynni cynyddol. Disgwylir i ragor gael ei dalu dros y misoedd nesaf wrth i filiau cynyddu oherwydd pwysau'r gaeaf a chostau ynni cynyddol.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Gwnaethom greu'r Gronfa Cymorth Ynni y llynedd oherwydd mae'r cyngor yn cydnabod y rôl hanfodol y mae lleoliadau cymunedol yn ei chwarae ar draws y ddinas.
"Maent yn aml yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr sy'n mynd allan o'u ffordd i gefnogi eu cymdogion. Maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd ifanc, pobl hŷn a chynifer o bobl eraill gan gynnig hwb ar gyfer cymdeithasu, mynd i'r afael â digartrefedd a darparu gwasanaethau a fydd yn cael eu colli'n fawr os ydynt yn cael eu hatal.
"Maent yn rhwydwaith gwych a hoffwn ddiolch i bawb sy'n rhan ohonynt am fynd gam ymhellach bob dydd er lles eu cymunedau.
"Nid ein cymunedau sy'n gyfrifol am yr argyfwng costau byw, a bydd y Gronfa Cymorth Ynni yn helpu i sicrhau y gall lleoliadau cymunedol a'u cefnogwyr gadw i fynd, hyd yn oed wrth i filiau ynni barhau i gynyddu."
Mae adborth gan y canolfannau cymunedol sydd wedi defnyddio'r Gronfa Cymorth Ynni wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae'n gwneud gwahaniaeth mawr.