Compass Independent Living
Mae Compass Independent Living yn rhan o Compass Disability Services, sefydliad a arweinir gan gwsmeriaid yng Ngwlad yr Haf sy'n darparu gwasanaethau ledled y wlad.
Rydym yn darparu gwasanaethau sy'n cefnogi pobl sy'n derbyn pecynnau gofal iechyd a/neu gymdeithasol (taliad uniongyrchol neu Gyllideb Iechyd Bersonol y GIG) neu unigolion sy'n ariannu eu gofal eu hunain i reoli eu gofal mewn ffordd sy'n rhoi dewis iddynt a rheolaeth dros eu bywydau.
Gallwn:
- egluro sut mae Cynllun y Taliad Uniongyrchol/Cyllideb Iechyd Bersonol yn gweithio
- trafod yr opsiynau sydd ar gael o ran cyllideb bersonol
- eich cynghori ar sut y gallech ddefnyddio'ch cyllideb bersonol i gyflogi Cynorthwyydd Personol o ran talu trethi ac yswiriant gwladol i CThEM
- arweiniad ar roi Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr ar waith
- cynghori ar ddeddfwriaeth gyflogaeth, e.e. isafswm cyflog cenedlaethol, hawliau statudol gweithwyr, contractau cyflogaeth, etc.
- cynorthwyo wrth gyflogi Cynorthwyydd Gofal neu Gynorthwyydd Personol
- rhoi arweiniad ar gadw cofnodion ariannol
- gweithio gyda chi i ddatblygu'ch cynllun gofal a rhoi cefnogaeth barhaus (lle bo angen)
- eich helpu i ddod o hyd i'r gwasanaethau y mae eu hangen arnoch (broceriaeth)
Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cyflogres a/neu wasanaethau cyfrifon a reolir.
- Enw
- Compass Independent Living
- Gwe
- https://compassindependentliving.org.uk/
- E-bost
- info@compassindependentliving.org.uk
- Rhif ffôn
- 01823 255905
- Ffacs
- 01823 351790