Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae diwrnod coroni'r Brenin Siarl III a'r Frenhines Gydweddog yn agosáu a gall preswylwyr Abertawe fod yn rhan o hyn drwy gynnal eu partïon stryd eu hunain.

Mae'r cyngor wedi hepgor ffïoedd cau ffyrdd i bobl leol sydd am gau eu stryd ar gyfer partïon stryd i ddathlu coroni'r brenin ar benwythnos Gŵyl y Banc 6 i 8 Mai.

coronation logo welsh official

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd: "Ond mae tua 22 o strydoedd o gwmpas y ddinas eisoes wedi gwneud cais i gau ffyrdd argyfer y digwyddiad ac rydym yn rhagweld y bydd mwy o geisiadau'n cyrraedd yn yr wythnosau sy'n dod."

Cynhelir seremoni coroni'r Brenin Siarl III a'r Frenhines Gydweddog ar 6 Mai. Hwn fydd y coroni cyntaf i'w gynnal ers coroni'r diweddar EM y Frenhines ym 1953.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd 8 Mai yn ŵyl banc ychwanegol.

Cewch ragor o wybodaeth yma am sut i gau ffordd ar gyfer eich parti stryd. Cynghorir unrhyw rai sy'n trefnu parti stryd i yswirio'u digwyddiad. https://www.abertawe.gov.uk/article/7957/Trefnu-parti-stryd