Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth gyda chostau tanwydd, ynni a biliau eraill y cartref

Mae cymorth a chefnogaeth ar gael i dalu biliau tanwydd, ynni a biliau eraill y cartref.

Cofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth

Mae'r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth yn wasanaeth cymorth am ddim a gynigir gan gyflenwyr ynni a gweithredwyr rhwydwaith i helpu pobl sy'n agored i niwed. Mae pob cyflenwr/gweithredwr yn cadw ei gofrestr ei hun, felly bydd angen i chi gysylltu â'ch cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith i gael eich ychwanegu.

Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid EDF Energy

Mae'r Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid yn dyfarnu grantiau i rai o gartrefi cwsmeriaid mwyaf agored i niwed EDF. Ei nod yw rhoi dechrau newydd a sefydlogrwydd ariannol i gwsmeriaid. Gall eich helpu i gadw allan o ddyled tanwydd a fforddio costau ynni parhaus yn well.

Cronfa E.ON Energy

Mae menter Cronfa Ynni E.ON wedi'i sefydlu i helpu cwsmeriaid presennol neu flaenorol i dderbyn cymorth ychwanegol. Os ydych yn bodloni'r meini prawf, gallai'r Gronfa Ynni eich helpu i dalu eich biliau E.ON cyfredol neu eich bil terfynol, helpu i amnewid offer a hyd yn oed atgyweirio boeleri nwy.

Cronfa E.ON Next Energy

Nod Cronfa Ynni E.ON Next yw helpu cwsmeriaid E.ON Next sy'n profi caledi ariannol ac sy'n ei chael hi'n anodd.

Cronfa Gymorth Octo

Os ydych yn ei chael hi'n anodd wrth dalu'ch bil ynni Octopus, gallwch lenwi ffurflen cymorth ariannol ar-lein a gweld pa opsiynau a all fod ar gael dan eich amgylchiadau.

Cronfa OVO Energy

Mae OVO Energy yn cynnig cynlluniau talu a chronfeydd ynni i helpu cwsmeriaid i dalu eu biliau ynni.

Cronfa galedi Scottish Power

Oherwydd bod rhai cwsmeriaid yn cael trafferth talu eu biliau oherwydd incwm isel neu amgylchiadau eraill, mae gan Scottish Power Gronfa Galedi i'w helpu i dalu eu biliau ynni.

Cymru Gynnes

Mae Cymru Gynnes yn gweithio i fynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy gynnig cyngor am ddim, atgyfeiriadau, a mynediad at grantiau i sicrhau bod gan bobl ledled Cymru a de-orllewin Lloegr gartrefi cynnes a diogel.

Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot

Darparu cyngor di-dâl, cyfrinachol a diduedd ar ystod eang o faterion, er enghraifft: dyled, budd-daliadau, tai a chyflogaeth.

Dŵr Cymru

Gall Dŵr Cymru ddarparu cymorth os ydych yn ei chael hi'n anodd talu'ch biliau neu os ydych mewn dyled gyda'ch bil dŵr.

ECO Flex

Cynllun y llywodraeth yw ECO Flex sy'n darparu cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref megis system gwres canolog newydd, gwella'r system wresogi bresennol a/neu inswleiddio.

Gofal a Thrwisio Bae'r Gorllewin

Nod Gofal a Thrwsio yw lleddfu anghenion pobl yn yr ardal sydd dan anfantais oherwydd iechyd, salwch neu anabledd, drwy ddarparu cefnogaeth, cymorth, cyfleusterau, amwynderau a gwasanaethau i bobl o'r fath mewn perthynas â'u tai.

Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA)

Mae gwasanaeth cynghori Cartrefi Cynnes a Diogel NEA yn wasanaeth cymorth am ddim sy'n rhoi cyngor i ddeiliaid tai ar eu biliau ynni a chadw'n gynnes ac yn ddiogel yn eu cartrefi. Gallant hefyd helpu gyda chyngor ar fudd-daliadau a manteisio i'r eithaf ar eich incwm.

Help gyda thrwyddedau teledu

Crëwyd y Cynllun Taliadau Syml ar gyfer y rheini ag anawsterau ariannol.

Nest Cymru

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yw gwneud cartrefi yn gynhesach ac yn fwy ynni-effeithlon i fyw ynddynt.

Ofcom

Cyngor ar gostau, biliau, a newid cyflenwyr ffôn a band eang.

Switched On - Hwb Hybu Ynni

Cefnogaeth a gwybodaeth annibynnol, ddiduedd ac am ddim i bawb ynghylch sut i wella'u heffeithlonrwydd ynni, newid darparwyr ynni a darparu mynediad at gymorth taliadau tanwydd (i'r rheini ar hawliau lles).

Turn2us

Mae Turn2Us yn elusen genedlaethol sy'n helpu pobl mewn caledi ariannol i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a gwasanaethau cymorth - ar-lein, dros y ffon.

Western Power Distribution - Power Up

Cyngor diduedd am ddim ar arbed ynni i aelwydydd yn Ne, Canolbarth a Gorllewin Cymru (yn awdurdodaeth Western Power Distribution).

Ymddiriedolaeth British Gas Energy

Gall unigolion a theuluoedd wneud cais am grantiau i glirio dyledion nwy a thrydan domestig. Mae'r grantiau ar gael i gwsmeriaid Nwy Prydain a chwsmeriaid cyflenwyr ynni eraill.
Close Dewis iaith