Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol 2024 / 2025 - 3il rownd

Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn Abertawe.

Pwy sy'n gymwys i ymgeisio?
Meini prawf y gronfa
Sut i gyflwyno cais
Lefelau ariannu
Dyddiadau cau
Meini prawf cyflwyno cais ac asesu

 

Pwy sy'n gymwys i ymgeisio?

Cyrff cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu wirfoddol, y rhai sydd ag amcanion elusennol a sefydliadau nider-elw.

Meini prawf y gronfa

Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn Abertawe.

Diben y gronfa yw cefnogi nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd drwy gryfhau mentrau bwyd cymunedol sydd eisoes yn bodoli yn Abertawe, gan gynnwys rhoi ffocws ar weithgarwch sy'n helpu i fynd i'r afael â gwir achosion tlodi bwyd. Mae'r grant hwn yn darparu cyllid refeniw a chyfalaf.

Mae amodau a thelerau'r grant yn nodi'r canlynol:

Gellir defnyddio cyllid refeniw i ddatblygu neu gryfhau prosiectau fel archfarchnadoedd cymdeithasol, caffis cymunedol, clybiau cinio a dosbarthiadau coginio cymunedol. Er enghraifft ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Prynu bwyd o ansawdd da a nwyddau hanfodol (gall hyn gynnwys aelodaeth FareShare ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon yn unig)
  • Hybu gallu sefydliadau bwyd cymunedol i ddiwallu anghenion eu cwsmeriaid, gan gynnwys anghenion amrywiol eu cymunedau.
  • Darparu ar gyfer y rhai hynny sy'n anodd eu cyrraedd drwy gymorth arbenigol megis gwasanaeth allgymorth neu sicrhau y darperir bwyd sy'n bodloni gofynion amrywiol y gymuned.
  • Hyfforddiant i wirfoddolwyr (e.e. cymwysterau trin bwyd / hyfforddiant Sgiliau Maeth am oes).
  • Datblygu hybiau cymunedol sy'n cydleoli amrywiaeth o wasanaethau cymorth megis lles, cyngor ar arian a thai, wedi'u hadeiladu o gwmpas darpariaethau bwyd cymunedol megis banciau bwyd, caffis a phantriïau cymunedol.
  • Gorbenion.
  • Treuliau i wirfoddolwyr.

Dylai cyllid cyfalaf gefnogi sefydliadau i gael gafael ar gyflenwadau bwyd ychwanegol, eu storio a'u dosbarthu, gan gynnwys bwyd dros ben o safon, er mwyn hybu eu gallu i ddarparu bwyd maethlon o safon i'w cwsmeriaid. Gellir ei ddefnyddio hefyd i brynu cyfarpar sy'n cefnogi mentrau sy'n helpu i fynd i'r afael â gwir achosion tlodi bwyd, megis datblygu mentrau tyfu a dosbarthu bwyd lleol, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain.

Er enghraifft, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Silffoedd
  • Cynwysyddion storio bwyd.
  • Nwyddau gwynion, e.e. poptai, oergelloedd neu rewgelloedd.
  • Cyfarpar cegin / coginio / piclo.
  • Cyfarpar tyfu cymunedol, e.e. offer.
  • Cyfarpar ar gyfer datblygu mentrau dosbarthu.
  • Celfi (os yw'n angenrheidiol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi bwyd yn unig).
  • Cyfarpar TG angenrheidiol e.e. er mwyn archebu bwyd neu ddarparu cymorth arbenigol i fynd i'r afael â thlodi bwyd (rhaid bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y cyfarpar a mynd i'r afael â thlodi bwyd, yn hytrach na diweddaru cyfarpar swyddfa cyffredinol).

Felly, byddem yn croesawu ceisiadau am gyllid sy'n mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â thlodi bwyd ac ansicrwydd ynghylch bwyd, gan gynnwys mynd i'r afael â'r gwir achosion.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2025.

Sut i gyflwyno cais

Llenwch y ffurflen gais a chyflwynwch yr wybodaeth ychwanegol angenrheidiol sy'n ofynnol.

Gall peidio â chfylwyno'r wybodaeth sy'n ofynnol arwain at oedi wrth asesu'ch cais neu gall y cais fod yn anghymwys i'w ystyried.

Lefelau ariannu

Mae cyllid cyfyngedig ar gael, caiff pob cais ei asesu ar sail ei rinweddau ei hun, gan gynnwys gwerth am arian.

Fel arweiniad, byddem yn awgrymu mai'r canlynol yw'r uchafswm y gallwch gyflwyno cais amdano i bob cynllun:

Refeniw - £1,000
Cyfalaf - £2,750

Os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno, neu os hoffech gyflwyno cais am fwy na'r symiau a awgrymwyd yn yr arweiniad, a wnewch chi e-bostio tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

Dyddiadau cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Dydd Sul 9 Chwefror 2025 am 11.59pm.

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried.

Asesir pob cais yn erbyn y meini prawf uchod gan banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r cyngor a'r trydydd sector.

Os nad oes digon o gyllid ar gael, ffefrir prosiectau sy'n ymwneud ag anghenion a dargedir - ardaloedd daearyddol a nodweddion gwarchoededig.

Mae penderfyniad y panel yn derfynol; ni chaiff apeliadau eu hystyried.

Meini prawf cyflwyno cais ac asesu

Caiff yr holl geisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf isod a bydd angen i ymgeiswyr arddangos y canlynol:

  • Statws sefydliadol / amcanion elusennol.
  • Bydd y cyllid yn ymdrin â meini prawf y gronfa ac yn diwallu anghenion a nodwyd.
  • Tystiolaeth o angen.
  • Hygyrchedd a chyfle cyfartal.
  • Dadansoddiad ariannol llawn o'r cyllid y cyflwynir cais amdano.
  • Gwerith am arian.

Dim ond ceisiadau gan grwpiau sy'n meddu ar y dystiolaeth ganlynol ac sy'n ei chyflwyno a ystyrir:

  • Dogfennau neu gyfansoddiad llywodraethu cyfredol.
  • Cyfrif banc busnes priodol.
  • Cyfrifon archwilliedig - neu os yw'n grŵp newydd, cyfriflenni banc cyfredol.
  • Polisïau Diogelu priodol - Diogelwch Plant, Oedolyn Agored i Niwed, anabledd a / neu unrhyw ofynion diogelu priodol eraill.

Cysylltwch â Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rhestr uchod. E-bost: scvs@scvs.org.uk / rhiff ffôn: 01792 544400

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Ionawr 2025