Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2024 / 2025 - cyn-ymgeisio

Camau y mae'n rhaid i chi eu dilyn cyn cyflwyno'ch cais am grant.

1.  Rhaid i ymgeiswyr ymgynghori â'u Swyddogion Datblygu wrth ystyried gwneud cais am y grant hwn. Os nad ydych chi'n gwybod pwy yw eich Swyddog Datblygu, neu os nad ydych chi'n gysylltiedig ag un o'r sefydliadau canlynol, yna cysylltwch â'n Swyddogion Cefnogi Gwasanaethau i gael cyngor.

  • Blynyddoedd Cynnar Cymru
  • Clybiau Plant Cymru
  • Mudiad Meithrin
  • PACEY yng Nghymru

2.  Rhaid i'r ymgeisydd weithio mewn partneriaeth â'i Swyddog Datblygu a rhyngddynt mae'n rhaid iddynt gytuno ar sail resymegol dros y cais am grant.

3.  Er mwyn nodi llif arian, rhaid i ymgeiswyr yn gyntaf gwblhau Rhestr Wirio Iechyd Busnes i'w helpu i lywio eu llif arian a dadansoddiad Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau ar gyfer 2024 / 2025.

4.  Cwblhau adroddiad llif arian ar gyfer 2024 / 2025.

5.  Cwblhau dadansoddiad SWOT.

6.  Rhaid i'r dadansoddiad SWOT lywio'r rhesymeg ar gyfer y cais am grant.

 

Pecyn Cymorth Archwiliad Iechyd Busnes ar gyfer prosiectau chwarae (Word)

Pecyn Cymorth Archwiliad Iechyd Busnes ar gyfer prosiectau chwarae.

Pecyn Cymorth Archwiliad Iechyd Busnes ar gyfer darparwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant (Word)

Pecyn Cymorth Archwiliad Iechyd Busnes ar gyfer darparwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Close Dewis iaith