Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog Abertawe 2023/24

Mae cyllid wedi dod ar gael i Abertawe o gyllideb Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Rob Stewart, i gefnogi cyn-filwyr.

1. Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Sefydliadau elusennol neu wirfoddol, y rheini ag amcanion elusennol a sefydliadau nid er elw preifat. Os yw'r grant ar gyfer unigolyn, caiff ei dalu drwy sefydliad yr ymgeisydd.

2. Blaenoriaethau'r Gronfa

Bydd y gronfa'n cefnogi mentrau sy'n mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chyn-filwyr, a'r cyn-filwyr eu hunain.  Mae'r gronfa'n croesawu mentrau/syniadau newydd a bydd yn darparu cyllid sbarduno ar gyfer syniadau newydd.

3. Sut i wneud cais

Llenwch y ffurflen gais atodedig a chyflwynwch yr wybodaeth ychwanegol angenrheidiol sy'n ofynnol. Gall peidio â chyflwyno'r wybodaeth sy'n ofynnol arwain at oedi wrth asesu'ch cais neu gall y cais fod yn anghymwys i'w ystyried.

Os bydd angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â Spencer Martin, Cyngor Abertawe, Neuadd y Ddinas, SA1 3PE. 

Dychwelwch y ffurflen wedi'i llenwi drwy e-bost i spencer.martin@abertawe.gov.uk