Toglo gwelededd dewislen symudol

Dychwelodd y Criw Croch i sesiynau wyneb yn wyneb yn Abertawe ar 5 Mehefin ar ôl dwy flynedd o sesiynau rhithwir oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol COVID-19.

Cynhaliwyd y digwyddiad dros gyfnod o ddwy flynedd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gwych Abertawe yn SA1 ac roedd yn cynnwys disgyblion Blwyddyn 6 o ysgolion cynradd ledled Abertawe a deithiodd i'r lleoliad i dderbyn negeseuon diogelwch personol pwysig amrywiol.

crucial crew 2023

Nod trosgynnol y Criw Croch yw cynyddu ymwybyddiaeth o beryglon posib a rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i bobl ifanc fynd i'r afael â nhw.

Eleni roedd gan y Criw Croch gynrychiolaeth o'r asiantaethau canlynol;

Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru - Diogelwch Tân mewn Cartrefi

Network Rail - Diogelwch ar y Rheilffyrdd

Safonau Bwyd - Hylendid Bwyd

RNLI  -Diogelwch Dŵr y Cyngor

Diogelwch Ffyrdd y Cyngor

Gwasanaethau Evolve y Cyngor - Diogelwch Ar-lein

Taclo'r Tacle - Adrodd am Ddigwyddiadau

Tîm Cyfranogaeth y Cyngor - Teimlo'n Ddiogel

Y Grid Cenedlaethol - Diogelwch Trydanol

Trefnwyd a rheolwyd y digwyddiad hwn gan Dîm Diogelwch Cymunedol Cyngor Abertawe. Meddai Paul Evans, Cydlynydd Diogelwch Cymunedol, "Rwyf wedi cael y pleser i weithio ar ddigwyddiadau'r Criw Croch dros y 25 o flynyddoedd diwethaf. Mae'n gyfle gwych i'n disgyblion blwyddyn 6 dderbyn negeseuon diogelwch pwysig iawn. Mae disgyblion blwyddyn 6 yn dechrau bod yn fwy annibynnol wrth iddynt fod allan yn eu cymunedau ac mae'r negeseuon maent yn eu derbyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w diogelwch."

Meddai Aelod y Cabinet y Cynghorydd Alyson Pugh: "Roeddwn i'n hapus iawn gyda'r holl wybodaeth roedd y disgyblion yn ei derbyn mewn sesiwn dwy awr. Disgyblion blwyddyn 6 yn unig sy'n mynd i sesiynau'r Criw Croch gan eu bod yn mynd i'r ysgol uwchradd yn fuan ac efallai bydd angen iddynt deithio'n bellach er mwyn cyrraedd yr ysgol a byw yn fwy annibynnol nag o'r blaen ac efallai bydd ganddynt fwy o gyfrifoldebau gartref hefyd. Mae Abertawe'n lle gwych i fyw a nawr rydym yn gobeithio ei bod yn lle mwy diogel i'n holl bobl ifanc."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Mehefin 2023