Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - Rhoi gwybod am rywun sy'n byw yn rhywle arall
Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sy'n hawlio budd-dal mewn un cyfeiriad ac yn byw yn rhywle arall.
Os ydych yn credu bod rhywun yn cyflawni twyll Gostyngiad Treth y Cyngor, gallwch roi gwybod i ni ar-lein.
Mae'n rhaid i ni gael rheswm da dros ymchwilio i rywun am dwyll budd-dal, felly bydd y ffurflen yn gofyn i chi roi cymaint o wybodaeth â phosib.
Mae'r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn gwbl gyfrinachol ac nid oes rhaid i chi roi eich enw oni bai eich bod yn dymuno.