Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am reoli priffyrdd

Atebion i'r cwestiynau mwy cyffredin sy'n cael eu gofyn i ni.

Pwy yw rheoli priffydd?

Mae Rheoli Priffyrdd yn dîm o Beirianwyr a Thechnegwyr sy'n gweithio gyda datblygiadau newydd, gan gynnal cofnodion Priffyrdd i'r Sir a darparu arsylwadau priffyrdd ar gyfer Ceisiadau Cynllunio. Yn syml, mae'r tîm yn darparu gwasanaeth ar faterion Priffyrdd cyn cael caniatâd ac ar ôl ei gael.

Beth mae Rheoli Priffyrdd yn ei wneud?

Mae'n trefnu Cytundebau Adran 38. Dyma'r dull arferol o sicrhau y caiff ffyrdd ystadau newydd eu hadeiladu i safon fabwysiadwy. Mae'r broses yn darparu sicrwydd i'r datblygwr a phreswylwyr y caiff ffyrdd newydd eu mabwysiadu gan y cyngor.

Mae'n trefnu Cytundebau Adran 278. Yn aml, bydd gwaith mynediad a gwella'r briffordd bresennol yn ofynnol i ddatblygiadau y mae Cytundeb Adran 278 yn berthnasol iddynt.

Mae'n trefnu trwyddedau Adran 177. Efallai y bydd gan adeiladau nodweddion parhaol sy'n estyn allan dros lwybr cerdded lle mae'r cyhoedd yn cerdded oddi tanynt. Mae'r drwydded yn sicrhau bod estyniadau'n bodloni gofynion dylunio a diogelwch y briffyrdd.

Mae'n ymchwilio i ardaloedd o briffyrdd presennol ac yn canolbwyntio ar anomaleddau yn y rhwydwaith presennol, gan benderfynu a ddylai'r cyngor fabwysiadu'r ardaloedd hyn o briffordd.

Mae'n trefnu Cau Priffyrdd. Mae cau rhan o Briffordd bresennol neu ran o heol yn barhaol yn ofynnol ar gyfer rhai datblygiadau. Bydd hyn fel arfer yn amod o gymeradwyo caniatâd cynllunio.

Mae'n trefnu Gorchmynion Gatio i gyfyngu mynediad, megis i lonydd cefn ac alïau, lle mae gorchymyn cyhoeddus a niwsans yn bryder mawr.

Mae'n cyhoeddi Hysbysiadau o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 pan fydd gorgyffwrdd a rhwystro ar Briffordd.

Mae'n ailgategoreiddio neu'n categoreiddio ffyrdd o ganlyniad i newidiadau i'r Rhwydwaith Priffyrdd.

Mae'n gwneud sylwadau ar faterion priffyrdd ar gyfer ceisadau cynllunio. Mae'r tîm Datblygu a Rheoli yn cynnig cyngor a sylwadau ar oblygiadau priffyrdd fel rhan o'r broses cynllunio cyn cael caniatâd.

Mae'n enwi ffyrdd yn swyddogol ac yn darparu rhifau ar gyfer datblygiadau newydd, adeiladau newydd ac eiddo sy'n cael ei addasu. Mae hefyd yn ailrifo eiddo ac yn cadarnhau ymholiadau cyfeiriad.

Beth sy'n gallu effeithio ar fabwysiadau ffyrdd?

Ni chaiff ffyrdd presennol eu mabwysiadu fel arfer oni bai bod eu perchnogion yn sicrhau eu bod nhw'n bodloni safonau'r cyngor. Er enghraifft, efallai bydd y ffordd heb darmac, heb ymylon, heb dreotffyrdd, heb garthffosydd dŵr arwyneb, heb gafnau, heb oleuadau, mae'r wyneb mewn cyflwr gwael neu efallai nad yw geometreg y ffordd yn addas fel ffordd sy'n cael ei chynnal at gost y cyhoedd.