Cwestiynau cyffredinol am therapi galwedigaethol
Rhestr o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am ein Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol yn y gymuned.
Beth yw'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol?
Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio?
Beth mae'r gwasanaeth yn ceisio ei gyflawni?
Sut ydw i'n gofyn am wasanaeth?
Beth sy'n digwydd yn yr asesiad?
A fydd gen i gynllun gweithredu?
Beth yw'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol?
Mae'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn un o'r gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn a phobl ag anableddau corfforol neu synhwyraidd. Mae tîm o Therapyddion Galwedigaethol (ThG) profiadol yn gweithio yn y gymuned gyda phobl anabl a chyda'r rheiny sy'n eu cynorthwyo neu'n byw gyda hwy.
Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio?
Mae Therapyddion Galwedigaethol yn helpu pobl i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi ag effeithiau anabledd.
Mae'r ThG yn gweithio gyda phobl o bob oedran er mwyn eu helpu i fod mor annibynnol â phosib, gwella ansawdd eu bywydau a bywydau'r bobl sy'n gofalu amdanynt..
Mae'r ThG yn cydweithio'n agos â sefydliadau eraill y gallai fod modd iddynt eich helpu hefyd i sicrhau y gellir diwallu eich anghenion yn y ffordd orau bosib. Gallai'r rhain gynnwys staff gofal iechyd neu swyddogion adfer o RNIB.
Bydd y ThG yn gweithio gyda chi i nodi tasgau rydych yn eu cael yn anodd i'w cyflawni ynghyd â ffyrdd o addasu technegau, defnyddio cyfarpar neu addasu eich cartref i wneud tasgau bob dydd yn haws.
Beth mae'r gwasanaeth yn ceisio ei gyflawni?
Nod y gwasanaeth ThG yw:
- rhoi mwy o annibyniaeth a rheolaeth dros eu bywydau i bobl;
- gwneud gweithgareddau bob dydd yn haws heb iddynt gymryd llawer o amser pobl anabl ac unrhyw un sy'n eu cynorthwyo neu'n byw gyda hwy;
- annog arferion diogel a hysbysu pobl amdanynt;
- helpu pobl i addasu i'w hanableddau a gwella eu hyder a'u hunan-barch.
Sut ydw i'n gofyn am wasanaeth?
Dylech chi neu rywun ar eich rhan gysylltu â'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC).
Os ydych yn glaf yn yr ysbyty, siaradwch â thîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty.
Bydd eich cais yn cael ei gyfeirio at y gwasanaeth ThG a byddwn yn gwneud apwyntiad i ThG ymweld â chi yn eich cartref a chyflawni asesiad o'ch anghenion.
Beth sy'n digwydd yn yr asesiad?
Bydd angen i'r ThG gasglu gwybodaeth am eich anabledd neu eich cyflwr meddygol, a bydd angen iddo eich arsylwi chi'n cyflawni tasgau bob dydd penodol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'ch anawsterau.
Yn benodol byddwn yn:
- trafod yr hyn y gallwch ei gyflawni ar hyn o bryd a sut mae unrhyw anawsterau'n effeithio ar eich ffordd o fyw a ffordd o fyw unrhyw un sy'n eich cynorthwyo neu sy'n byw gyda chi;
- nodi beth yw eich cryfderau a'ch galluoedd a sut y gellir defnyddio'r rhain i oresgyn yr anawsterau;
- trafod unrhyw syniadau sydd gennych o ran ffyrdd o wella'r sefyllfa;
- gofalu eich bod yn gwybod am yr amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau lleol sydd ar gael i'ch helpu;
- os yw'n briodol, trefnu i chi roi cynnig ar gyfarpar arbenigol yn eich cartref.
A fydd gen i gynllun gweithredu?
Ar ôl asesu eich anghenion ac archwilio unrhyw ddewisiadau neu opsiynau gyda chi, bydd y ThG yn defnyddio'i arbenigedd a'i brofiad i weithio gyda chi ac unrhyw un sy'n eich cynorthwyo neu'n gweithio gyda chi ar gynllun gweithredu i gytuno arno.
Gall y ThG:
- roi cyngor ar ffyrdd gwahanol o ymdrin â'ch sefyllfa a thrafod ffyrdd ar gyfer newid a gwelliant;
- cynghori chi ac unrhyw un sy'n eich cynorthwyo neu sy'n byw gyda chi am sgiliau newydd i'ch helpu i wneud pethau o gwmpas y tŷ yn fwy rhwydd a diogel;
- awgrymu cyfarpar a allai eich helpu gyda thasgau bob dydd fel ymolchi, gwisgo a choginio;
- rhoi gwybodaeth i chi ar addasiadau posib i'ch cartref ac ynghylch pa grantiau sydd ar gael.