Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am wastraff masnachol a biniau ailgylchu gydag olwynion

Mwy o wybodaeth am ein biniau gydag olwynion.

Faint o gynwysyddion a pha faint y mae ei angen arnaf?

Mae angen i chi sicrhau bod eich cynhwysydd yn ddigon mawr ar gyfer yr holl wastraff mae'ch busnes yn ei gynhyrchu ac ni ddylai'ch penderfyniad fod ar sail cost. Os oes gennych unrhyw wastraff ychwanegol ni fyddwn yn ei gasglu oni bai y cytunwyd ar hyn ymlaen llaw.

Os yw'ch gwastraff yn amrywio o wythnos i wythnos mae'n rhaid i chi sicrhau bod eich cynhwysydd yn ddigon mawr i ddal y rhan fwyaf o'r gwastraff y gallech ei greu. Os ydych yn dewis defnyddio gwasanaeth y cyngor rydym yn gallu darparu casgliadau ychwanegol â 24 awr o rybudd drwy e-bost. Byddwch yn cael anfoneb am gost codi bin ychwanegol am faint y bin sydd ar y contract neu swm cyfwerth y sachau a gesglir.

Mae'n bosib y bydd angen math gwahanol o gynhwysydd arnoch, er enghraifft sachau yn lle bin os nad oes lle i fin neu os yw mynediad yn gyfyngedig.

Mae fy min wedi torri/ar goll/wedi'i ddwyn, sut alla i gael bin newydd?

Cysylltwch â'r tîm gwastraff masnachol ac ailgylchu a byddwn yn trefnu i atgyweirio neu ddarparu bin newydd cyn gynted â phosib. Sylwer ni allwn ddarparu bin newydd dro ar ôl tro os caiff y bin ei ddwyn. Bydd cwsmeriaid yn symud i wasanaeth casglu sachau os oes problemau parhaol gyda lladrad neu fandaliaeth.

Beth sy'n digwydd os caiff fy min ailgylchu ei lygru gyda gwastraff arall?

Os ydych yn sylwi cyn y casgliad, gwaredwch yr eitemau hyn. Os yw aelod o'n criw yn sylwi ar yr halogiad ni fydd yn gallu gwagio'r bin. Os caiff y difwynwyr eu gwaredu bydd y bin yn cael ei wagio ar eich casgliad nesaf. Mae gan y rhan fwyaf o finiau gaeadau y gallwch eu cloi. Os oes angen allwedd arnoch, rhowch wybod i ni.

Beth dylwn i ei wneud os yw busnesau eraill neu unigolion wedi bod yn defnyddio fy min?

Cofnodwch hyn fel tipio anghyfreithlon trwy ffonio 01792 635600 fel gallwn ni gofnodi cwyn a gall yr wybodaeth hon cael ei throsglwyddo i'r tîm gorfodi. I atal hyn rhag digwydd, clowch eich bin. Os oes angen bin y gallwch ei gloi neu allwedd arnoch, gadewch i ni wybod. Peidiwch â chysylltu â'r swyddogion gwastraff masnachol ynglŷn â materion tipio anghyfreithlon.

Mae gen i ormod o wastraff masnachol ac nid oes lle iddo yn fy min, a fydd y rhain yn cael eu casglu?

Dim ond gwastraff a nodwyd ar eich cytundeb a nodyn trosglwyddo gwastraff fydd yn cael ei gasglu. Mae'n rhaid i'ch holl wastraff fod yn eich cynhwysydd gyda'r caead wedi'i gau'n dynn. Ni fydd gwastraff wrth ochr eich bin yn cael ei gasglu oni bai eich bod wedi cysylltu â ni ymlaen llaw. Os oes angen casgliad ychwanegol arnoch rhwng eich casgliadau arferol gallwch drefnu hyn trwy gysylltu â ni. Os oes angen i ni gasglu gwastraff ychwanegol yn aml mae'r cyngor yn cadw'r hawl i adolygu gofynion cynhwysydd y cwsmer.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ionawr 2022