Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am gerbydau a adawyd

Find out answers to the most common questions we get asked about abandoned vehicles.

Beth yw cerbyd sydd wedi'i adael?

Gellir ystyried bod cerbyd wedi'i adael os yw wedi cael ei adael mewn ardal am gyfnod neu os nad oes ganddo berchennog cofrestredig.  Mae'n bosib nad yw wedi'i drethu a gall fod mewn cyflwr peryglus hefyd.

Gallwch weld os yw cerbyd wedi'i drethu ac os oes ganddo MOT ar Gov.uk/gwirio treth cerbyd (Yn agor ffenestr newydd)

Beth gallaf i ei wneud i helpu?

  • Peidiwch â chyffwrdd â cherbyd sydd wedi'i adael na mynd i mewn iddo. Gallai fod wedi cael ei ddefnyddio i gyflawni trosedd ac efallai bod yr heddlu am ymchwilio mwy iddo.
  • Gall llawer o gerbydau sydd wedi'u gadael fod yn beryglus i iechyd a diogelwch y cyhoedd. Gallant gynnwys deunyddiau gwastraff peryglus ac yn aml gallant fod yn berygl tân.
  • Peidiwch â mynd yn agos at gerbyd sydd ar dân, na chyffwrdd â cherbyd sydd wedi llosgi. Gall paent, rwber a deunyddiau eraill sydd wedi llosgi fod yn wenwynig, yn gyrydol ac yn niweidiol i'r croen.
  • Cofiwch, os ydych chi'n gweld cerbyd ar dân, ffoniwch y gwasanaeth tân ar unwaith.
  • Os yw'r cerbyd eisoes wedi'i losgi, cysylltwch â Dinas a Sir Abertawe trwy ddefnyddio'n ffurflen ar-lein  Adrodd am gerbyd wedi'i adael.

Beth dylwn i ei wneud i roi gwybod am gerbyd?

Dylech gasglu'r wybodaeth ganlynol pan rydych yn rhoi gwybod am gerbyd sydd wedi'i adael:

  • Gwneuthuriad, model a lliw'r cerbyd
  • Rhif cofrestru'r cerbyd (Os yw'r platiau cofrestru ar goll gallwch gael yr wybodaeth hon o'r disg treth os yw wedi'i arddangos)
  • Cyflwr y cerbyd (gan fanylu ar unrhyw fandaliaeth)
  • Dyddiad terfyn y disg treth, os yw wedi'i arddangos
  • Union leoliad y cerbyd
  • Pa mor hir y gadawyd y cerbyd 
  • Unrhyw wybodaeth arall, e.e. y perchennog neu'r defnyddiwr posib.

Yna dylech roi gwybod am y cerbyd trwy ffonio 01792 636819 neu trwy gwblhau'n ffurflen ar-lein Adrodd am gerbyd wedi'i adael.

Beth yw'r gwasanaeth gwaredu cerbydau sydd wedi'u gadael a gynigir gan y cyngor?

Mae'r Awdurdod yn darparu gwasanaeth am ddim ar gyfer casglu a gwaredu cerbydau dieisiau.

Yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am waredu unrhyw gerbyd sydd wedi'i adael yn yr awyr agored, neu ar unrhyw ran o'r briffordd. Mae cerbydau o'r fath yn hyll, a gallant hefyd fod yn beryglus, yn enwedig i blant sy'n eu gweld fel rhywle i chwarae.

Mae'n rhaid dadlygru pob cerbyd cyn ei ddinistrio ac er mwyn adfer peth o'r adnoddau i'w hailgylchu neu eu hailddefnyddio. Y nod yw gwella ansawdd bywyd trigolion trwy waredu'r cerbydau sy'n achosi poendod iddynt ac sy'n amharu ar yr amgylchedd.

Beth rydym ni'n ei wneud i helpu?

  • Bydd pob cerbyd sydd wedi'i adael yn cael ei archwilio o fewn 24 awr o dderbyn yr wybodaeth. Caiff hyn ei fonitro a'i ddadansoddi'n rheolaidd.
  • Gall Dinas a Sir Abertawe ddefnyddio ei Bwerau Datganoledig gan y DVLA i waredu unrhyw gerbyd heb dreth sydd ar y briffordd fabwysiedig.
  • Gellir gwaredu unrhyw gerbydau nad ydynt o unrhyw werth neu sydd mewn cyflwr a allai fod yn beryglus i'r cyhoedd ar unwaith.
  • Bydd cerbydau sydd wedi'u gadael ar dir preifat yn cael cyfnod rhybudd 15 niwrnod, fel arfer ar ôl ymgynghori â pherchennog neu asiant y tir.
  • Hefyd mae gan Ddinas a Sir Abertawe y pŵer i adennill unrhyw gostau a ddaw o ganlyniad i waredu cerbydau o'r fath.

 

Mae Tîm Cerbydau sydd wedi'u Gadael Dinas a Sir Abertawe'n gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru a Thîm Lleihau Tanau Bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.