Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am hybiau cymunedol (Y Storfa)

Cwestiynau cyffredin am yr hwb cymunedol arfaethedig ar gyfer canol y ddinas, a fyddai'n gartref newydd i'n prif lyfrgell a llu o wasanaethau cymunedol eraill.

Pryd bydd Y Storfa'n agor?

Mae tîm prosiect a chontractwyr y Cyngor yn gwneud cynnydd sylweddol wrth ddatblygu Y Storfa. Caiff amserlen ar gyfer agor ei chyhoeddi maes o law.

Pryd bydd y Ganolfan Ddinesig yn cau?

Dim ond pan fydd Y Storfa ar agor, ac yn gweithredu'n llwyddiannus.

Sut bydd y cyhoedd yn cael y newyddion diweddaraf am symud gwasanaethau'r Cyngor o'r Ganolfan Ddinesig i Y Storfa?

Drwy'r cyfryngau lleol, yr e-gylchlythyr cyhoeddus wythnosol a chyfryngau cymdeithasol. Mae gwe-dudalennau Y Storfa ar gael hefyd.

Sut bydd y cyfnod pontio yn effeithio ar staff a'r cyhoedd, wrth i'r gwasanaeth archifau symud o'r Ganolfan Ddinesig i Y Storfa?

Rydym yn bwriadu sicrhau bod y broses bontio mor llyfn â phosib i bawb, gyda diweddariadau rheolaidd ar gynnydd. Er ein bod yn deall bod rhai pobl yn mwynhau'r Ganolfan Ddinesig, rydym yn gobeithio y bydd llawer ohonoch yn mwynhau agosrwydd Y Storfa at y gwasanaethau niferus yng nghanol y ddinas.

Sut bydd staff a'r cyhoedd yn gallu teithio i Y Storfa?

Mae yng nghanol y ddinas ac yn agos at lwybrau bysus, meysydd parcio a llwybrau beicio.

Ble bydd staff a'r cyhoedd yn gallu parcio pan fyddant yn gweithio neu'n ymweld â'r Storfa?

Mae cannoedd o leoedd parcio yng nghanol y ddinas a weithredir gan y Cyngor ac eraill: Meysydd parcio canol y ddinas.

Pam mae'r newid mawr hwn yn cael ei wneud?

Mae'r Cyngor yn arwain cynllun gwerth £1bn i adfywio Abertawe. Fel rhan o hyn, mae eisiau cynyddu nifer yr ymwelwyr â busnesau yng nghanol y ddinas - ac mae'n gweld y Ganolfan Ddinesig fel cyfle cyffrous ar gyfer ailddatblygiad. Bydd creu Y Storfa yn hen adeilad BHS yng nghanol y ddinas yn denu miloedd o bobl - staff a'r cyhoedd - bob wythnos, gan hybu cyfleoedd ar gyfer y sector preifat. Bydd ailddatblygu safle'r Ganolfan Ddinesig a chyflwyno amrywiaeth o ddefnyddiau newydd yn helpu i gynnig mwy o gyfleoedd i bobl o Abertawe a mannau eraill i fwynhau glan y môr.

Pryd bydd y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cau yn y Ganolfan Ddinesig?

Nid yw hyn wedi'i gadarnhau eto. Caiff diweddariadau rheolaidd eu cyhoeddi.

Pryd bydd y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn agor yn Y Storfa?

Nid yw hyn wedi'i gadarnhau eto. Caiff diweddariadau rheolaidd eu cyhoeddi.

Pryd bydd y tîm Refeniw a Budd-daliadau yn rhoi'r gorau i weithredu yn y Ganolfan Ddinesig?

Nid yw hyn wedi'i gadarnhau eto. Caiff diweddariadau rheolaidd eu cyhoeddi.

Pryd bydd y tîm Refeniw a Budd-daliadau yn gweithredu yn Y Storfa?

Nid yw hyn wedi'i gadarnhau eto. Caiff diweddariadau rheolaidd eu cyhoeddi.

Pryd bydd y brif lyfrgell yn cau yn y Ganolfan Ddinesig?

Nid yw hyn wedi'i gadarnhau eto. Caiff diweddariadau rheolaidd eu cyhoeddi.

Pryd bydd y brif lyfrgell yn agor yn Y Storfa?

Nid yw hyn wedi'i gadarnhau eto. Caiff diweddariadau rheolaidd eu cyhoeddi.

Pryd bydd Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn cau yn y Ganolfan Ddinesig?

Nid yw hyn wedi'i gadarnhau eto. Caiff diweddariadau rheolaidd eu cyhoeddi.

Pryd bydd y Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn agor yn Y Storfa?

Nid yw hyn wedi'i gadarnhau eto. Caiff diweddariadau rheolaidd eu cyhoeddi.

Close Dewis iaith