Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y Storfa: Eich hwb cymunedol yng nghanol y ddinas

Rydym yn adeiladu hwb cymunedol aml-bwrpas yng nghanol eich dinas.

Bydd hyn hyrwyddo: cydlyniant cymunedol, cyfleoedd ar gyfer hunan-ddatblygiad a thwf, cynhwysiad digidol, lles, undod a nerth ar draws cymunedau amrywiol ein dinas.

Bydd Y Storfa yn hygyrch i bawb a bydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau mewn amgylchedd croesawgar lle gallwch gwrdd ag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, dysgu a grwpiau cefnogi.

Bydd yn darparu llety ystwyth i sefydliadau'r trydydd sector, cyrff sector cyhoeddus a chwmnïau'r sector preifat sy'n cefnogi ethos hwb cymunedol.

Bydd swyddfeydd hyblyg, cydweithredol yn cefnogi'r gymuned i ddod o hyd i atebion a'u cyflawni er mwyn gwella ansawdd bywyd lleol.

Bydd eich hwb newydd sy'n agored i'r cyhoedd yn agos at safleoedd bysus, llwybrau beicio a meysydd parcio.

Mae'r gwasanaethau sydd wedi'u cadarnhau i feddiannu Y Storfa maes o law yn cynnwys y prif lyfrgellGwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg,, gwasanaeth refeniw a budd-daliadau'r cyngor, canolfan gwasanaethau cwsmeriaid y cyngor, Gyrfa Cymru Abertawe Cymru'n Gweithio, Cyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd y gwasanaethau eraill sy'n bwriadu symud yno yn cael eu cyhoeddi.

Mae Y Storfa, sydd ar safle 277-278 Stryd Rhydychen (hen adeilad BHS) yn adeilad amlwg yng nghanol y ddinas sy'n cael adfywiad pwysig newydd.

Bydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â busnesau gerllaw ac yn rhan o raglen adfywio'r ddinas gwerth £1bn, a gyflwynir gan y cyngor.

Bydd ei bresenoldeb yn annog buddsoddiad mewn manwerthu a chartrefi yng nghanol y ddinas.

Pan fydd ar agor, bydd Y Storfa yn golygu y gall preswylwyr gael mynediad haws at wasanaethau nag erioed o'r blaen.

Roedd y cynllun yn destun proses ymgynghori. Aseswyd y canlyniadau a byddant yn parhau i lywio edrychiad a naws Y Storfa.

Newyddion a diweddariadau

Gwaith yn symud yn ei flaen wrth i waith trawsnewid hen adeilad BHS ddwysáu - Hydref 2023

Cyhoeddiad! Dau denant ar gyfer hwb cymunedol canol y ddinas, Y Storfa - Medi 2023

Enw newydd adeilad yn cyfeirio at y dyfodol - gydag atgofion o'r gorffennol - Medi 2023

Cwmni o Gymru'n ennill contract adfywio allweddol yn Abertawe - Chwefror 2023

​​​​​​​Iechyd da! Y gorffennol yn cwrdd â'r dyfodol ar safle allweddol yng nghanol y ddinas - Hydref 2022

Cyfle i fusnesau elwa o gynllun mawr newydd ar gyfer canol y ddinas - Medi 2022

Gwaith i drawsnewid hwb cymunedol canol y ddinas i ddechrau yn yr hydref - Awst 2022

£5.5m o gymorth ariannol ar gyfer hwb cyhoeddus newydd canol dinas Abertawe - Gorffennaf 2022

Cam allweddol ymlaen ar gyfer hwb gwasanaethau lleol yng nghanol y ddinas - Ionawr 2022

Gwasanaethau cyhoeddus i symud i hwb cymunedol newydd yng nghanol y ddinas - Ionawr 2022

Cwestiynau cyffredin am hybiau cymunedol (Y Storfa)

Cwestiynau cyffredin am yr hwb cymunedol arfaethedig ar gyfer canol y ddinas, a fyddai'n gartref newydd i'n prif lyfrgell a llu o wasanaethau cymunedol eraill.
Close Dewis iaith