Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am Sgwâr y Castell

Cwestiynau cyffredin am y prosiect i ailddatblygu Sgwâr y Castell.

Pam y mae'r lle hwn - a ddylai fod yn wyrdd fel yr oedd yn y gorffennol - yn cael ei ddatblygu gyda chaffis yn llenwi'r lle cyhoeddus?

Mae ein cysyniadau'n dangos nad oes unrhyw le cyhoeddus yn cael ei golli a bydd y mannau gwyrdd yn hygyrch i'r cyhoedd. Hefyd bydd yr unedau bwyd a diod yn dod yn rhan o wyrddni Sgwâr y Castell a fydd yn llawer mwy nag y mae ar hyn o bryd - o 25% o'r lleoliad i fwy na 40% o'r lleoliad.

Byddai pob uned fasnachol yn wynebu'r de a byddai ganddynt seddi allanol a thoeau gwyrdd. Byddai'r ddau yn helpu i wella bioamrywiaeth yr ardal ac yn ychwanegu man gwyrdd hamddenol at ganol y ddinas - yn debyg i'r hyn rydym wedi'i wneud ar Ffordd y Brenin ar ei newydd wedd sydd â channoedd o goed ac ardaloedd glaswelltog mawr deniadol.

Byddai'r lleoedd masnachol hefyd yn dod â refeniw i'r cyngor y gallwn ei ddefnyddio i gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus gan wneud iawn am y gostyngiad sylweddol mewn cyllid oddi wrth Lywodraeth Ganolog. Byddwch yn gallu mwynhau golygfeydd o gastell hanesyddol Abertawe o hyd.

Mae'r cyhoedd wedi dweud wrthym trwy amrywiol sianeli yn y gorffennol diweddar yr hoffent gael mwy o fannau gwyrdd, maint tebyg o leoedd cyhoeddus y gellir eu defnyddio, mwy o resymau i bobl ddefnyddio Sgwâr y Castell, ailgyflwyno rhywfaint o swyn a chysylltiadau cryfach â'r castell - ac mae'r cynlluniau hyn yn ceisio gwneud hynny i gyd.

Beth os nad ydych yn gallu gosod yr unedau masnachol? Oni fyddai hynny'n effeithio ar y sgwâr?

Byddem yn sicrhau bod ein telerau mor ddeniadol â phosib fel y gallai busnesau lleol sefydlu eu hunain a ffynnu yno; byddai'r busnesau hynny mewn lleoliad gwych, gyda nifer mawr o ymwelwyr a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i greu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl leol. Rydym eisoes wedi'n calonogi gan y galw gan ddeiliaid lleol am unedau masnachol yng nghynllun Cam Un Bae Copr gerllaw.

Pam na all y sgwâr fynd yn ôl i fel yr oedd flynyddoedd yn ôl?

Mae amserau'n newid. Wrth i ddymuniadau pobl esblygu, felly hefyd ganol ein dinas. Dyna pam rydym yn adeiladu arena a dyma'r rheswm dros greu Ffordd y Brenin sy'n fwy addas i gerddwyr - a'r rheswm rydym am greu Sgwâr y Castell hamddenol, cyfforddus a chwareus sy'n rhoi rhesymau i bobl ymweld ag e' a threulio amser yno. Hefyd, bydd yr unedau bwyd a diod yn creu swyddi i bobl leol mewn amgylchedd pleserus. Wrth gwrs, bydd llawer mwy o wyrddni nag sydd yno ar hyn o bryd - byddwn yn cadw cynifer o'r coed presennol ag y gallwn, yn plannu coed newydd ac yn cyflwyno elw net sylweddol o ran bioamrywiaeth a lle gwyrdd; bydd mwy o liw a chymeriad, gan gynnwys coed sy'n cynnig cysgod, lloches a diddordeb tymhorol.

Oni fydd e'n denu mwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Dydyn ni ddim yn credu hynny. Os yw pobl yn defnyddio'r lle i fwyta, yfed, ymlacio a chwarae yna rydym yn credu y byddai ymddygiad gwrthgymdeithasol yn llai tebygol. Hefyd mae'r posibilrwydd o gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn cael ei ystyried ar hyn o bryd - byddai hyn yn targedu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Sgwâr y Castell ac ardaloedd eraill yng nghanol y ddinas. Bydd ein ceidwaid canol y ddinas yn parhau i fonitro'r ardal.

Sut rydych chi'n gwybod y bydd hyn yn gweithio?

Mae enghreifftiau da mewn trefi a dinasoedd eraill lle mae sgwariau cyhoeddus gyda bwyd diod a hwyl yn llwyddiannus iawn. Maen nhw'n cynnig yr hyn y mae pobl yn dymuno'i gael - awyrgylch hwyliog gyda chysur yr 21ain ganrif. Credwn y bydd cyhoedd Abertawe'n mwynhau'r syniad o ymlacio yn y lle hwn lle bydd llawer o wyrddni, gan gynnwys coed, nodweddion dŵr newydd sy'n debyg i nifer a osodwyd eisoes mewn dinasoedd eraill, gan gynnwys Bradford a Hull. Yn y cyfamser, bydd ein tîm proffesiynol profiadol yn parhau i ddefnyddio profiadau o bedwar ban byd.

Sut rydym wedi cyrraedd y cam hwn? Sut rydych chi'n gwybod yr hyn y mae pobl eisiau ei gael yn wirioneddol?

Cafwyd nifer sylweddol o sylwadau ar ddyfodol y sgwâr mewn ymateb i Hysbysiad Gwaredu Lle Agored yn 2017, ac yn sgîl ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth isadeiledd gwyrdd ar gyfer canol y ddinas. Defnyddiwyd sylwadau o'r ymgynghoriadau hyn i arwain datblygiad yr opsiynau ar gyfer y safle hwn. Gofynnir i'r Cabinet yn awr gymeradwyo proses ymgysylltu â'r cyhoedd newydd i gasglu'ch barn er mwyn ei hystyried ymhellach yn y broses ddylunio fanwl. Bydd rhagor o gyfleoedd yn y dyfodol i helpu i lywio'n meddwl, gan gynnwys ar y cam cynllunio.

Pwy luniodd y cysyniad dylunio?

Penodwyd Spider Management yn 2019, i weithio gyda thîm proffesiynol a oedd yn cynnwys ACME yn ymgymryd ag astudiaeth dichonoldeb. Mae ACME yn gwmni o benseiri mawr eu parch a chanddo hanes da o ddylunio trefol cyfoes.

Oni fyddai'r nodweddion dŵr newydd yn denu camdriniaeth?

Rydym yn mawr obeithio na fyddai hyn yn digwydd! Byddant yno i bawb eu mwynhau ac i blant allu chwarae gyda nhw. Byddai'r nodweddion yn cynnwys jetiau dŵr, y gellid eu troi ymlaen neu eu diffodd i ganiatáu defnydd hyblyg o'r lle. Byddai'r cyngor yn gofalu amdanynt, ond ein cyfrifoldeb ni fyddai parchu unrhyw amgylchedd smart newydd - yn union fel ardaloedd i gerddwyr Ffordd y Brenin, Bae Copr a'i barcdir newydd a Wind Street lle mae gwaith newydd ddechrau ar well amgylchedd i gerddwyr a busnesau lletygarwch. Bydd y jetiau'r dŵr ar yr un lefel â'r sgwâr a gellid eu diffodd pan nad oes eu hangen er mwyn cynnal digwyddiadau.

Pryd bydd hyn yn debygol o ddigwydd?

Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet yna bydd ymgynghoriad cyhoeddus, dyluniadau manwl, arolygon, cais i'r Cabinet am gyllid a'r broses gynllunio. Byddai'r Cabinet wedyn yn gorfod cymeradwyo'r dyluniad terfynol cyn iddo gael ei adeiladu. Byddai'r cynllun wedi'i orffen erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.

Beth yw diben hyn gan fod y pandemig yn golygu mai ychydig iawn o bobl sy'n mynd yn awr i ganol y ddinas?

Mae Abertawe am arwain y ffordd allan o'r pandemig. Mae gwaith gwerth £1 biliwn yn cael ei wneud ar hyn o bryd i drawsnewid canol y ddinas i'w wneud yn ardal lle mae pobl am weithio, byw astudio a threulio amser rhydd o ansawdd. Mae'n rhaid i ganol dinasoedd newid oherwydd effeithiau manwerthu ar-lein a'r pandemig - ac mae Abertawe'n gwneud newidiadau sylweddol yn barod. Yn y dyfodol byddwch yn gweld llawer mwy o bobl yn byw yng nghanol y ddinas, gan ysgogi busnesau newydd i gychwyn yno. Bydd Cam Un Bae Copr, gyda'i arena a'i barcdir, yn gatalydd i'r adfywiad hwn, gan ddod ag adloniant o'r radd flaenaf yma a chyfleoedd i ymlacio gyda ffrindiau a theulu. Bydd Sgwâr y Castell ar ei newydd wedd yn helpu gydag adferiad tymor hir y ddinas. Yn ôl y cysyniad dylunio, bydd y lleoliad yn lle hyblyg mawr sy'n addas ar gyfer cadw pellter cymdeithasol os bydd angen hynny ar ôl y pandemig.

Pam rydym yn cyflwyno mwy o unedau masnachol pan fo lle gwag ar gael eisoes yng nghanol y ddinas ar ôl i fusnesau cenedlaethol fethu?

Rydym yn gwneud canol y ddinas yn lleoliad atyniadol lle gall pobl dreulio amser o ansawdd - ac nid ar gyfer siopa'n unig, oherwydd mae'n rhaid i ganolfannau trefol a dinesig o gwmpas y DU newid oherwydd ffactorau fel manwerthu ar-lein a'r pandemig. Byddai unedau bwyd a diod Sgwâr y Castell yn caniatáu i chi fwynhau'r rhan honno o ganol y ddinas a byddent yn cynnig rheswm arall dros ymweld a chefnogi ein busnesau lleol - rydym am iddo fod yn amgylchedd o safon gyda mannau o safon i eistedd, ymlacio, mwynhau cwmni da a chael bwyd a diod. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar ffyrdd eraill o ddod â bywyd newydd i'r unedau a adawyd yn wag oherwydd methiant manwerthwyr cenedlaethol. Mae unedau gwag yng nghanol pob dinas; gwahaniaeth allweddol gydag Abertawe yw bod ein gwaith gwerth £1 biliwn i adfywio canol y ddinas wedi dechrau cyn COVID, ac wedi gwneud cryn gynnydd drwy gyfnod y pandemig - byddwn mewn sefyllfa gref i arwain Cymru allan o COVID.

Mae'n iawn i rywle gael ei weddnewid - ond sut gallwch sicrhau y byddwch yn gofalu amdano?

Mae cynnal a chadw palmentydd, tirlunio ac unedau masnachol yn rhywbeth rydym yn benderfynol o'i wneud yn iawn. Caiff nifer o gynlluniau eu hystyried fel rhan o'r broses o weithio tuag at Sgwâr y Castell newydd.

Ai Sgwâr y Castell fydd yr enw arno o hyd - neu a fydd yr ardal yn cael ei hen enw yn ôl?

Gan y gallai golwg a theimlad y lle newid yn ddramatig, ac er gwell, byddwn yn cynnig nifer o opsiynau i'r cyhoedd ar gyfer enwau posib - gan gynnwys yr enw presennol, ei enw yn y gorffennol ac amrywiadau ar y themâu hynny.

A fyddaf yn dal i allu gyrru neu reidio ar hyd Castle Bailey Street a Caer Street?

Byddwch! Ni fwriedir newid y trefniadau mynediad ar gyfer modurwyr a defnyddwyr eraill y ffordd. Mae cysyniad Sgwâr y Castell yn cynnig gwella'r ffordd gerbydau ar y ddwy ffordd - bydd hyn yn helpu cerddwyr i groesi a chysylltiadau â lleoliadau amgylchynol fel y castell, Wind Street ac Eglwys y Santes Fair.

Sut gallaf rannu fy marn â'r cyngor?

E-bostiwch eich syniadau a'ch barn am ddyfodol Sgwâr y Castell i sgwarcastell@abertawe.gov.uk.

Close Dewis iaith