Toglo gwelededd dewislen symudol

Sgwâr y Castell

Rydym yn gweithio i wella Sgwâr y Castell a'i wneud yn fwy deniadol, gwahanol a bywiog.

Fel lle cyhoeddus adfywiedig â defnyddiau newydd, bydd Sgwâr y Castell ar ei newydd wedd yn rhan o'r rhaglen adfywio ehangach sy'n digwydd yn barod yn Abertawe, gan ei gwneud yn ddinas ddeniadol i fyw, gweithio ac ymweld â hi.

Daw Sgwâr y Castell yn lle cyhoeddus modern, ymarferol sydd wedi'i gynnal yn dda lle byddwch am dreulio amser o safon ac ymlacio.

Cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau a phrofiadau diwylliannol yno o hyd.

Mae'r cynlluniau wedi'u llywio gan farn y cyhoedd ac ymgynghoriad. Bydd eich Sgwâr y Castell fwy croesawgar yn cynnwys:

  • Man gwyrdd mwy defnyddiadwy, a chynyddu'r tirlunio o 25% o'r Sgwâr fel yn y blynyddoedd diwethaf i fwy na 40%; bydd mwy o gymeriad, lliw a bioamrywiaeth.
  • Mwy o goed - gyda'r rhan fwyaf o'r coed sydd eisoes yno yn cael eu cadw.
  • Caffis neu fwytai newydd mewn lle deniadol sy'n addas i deuluoedd, gyda chanopïau i ddarparu cysgod a lloches er mwyn i bobl eistedd y tu allan ac ymlacio.
  • Nodwedd jetiau dŵr ddifyr gyda ffynhonnau bach yn codi o'r ardal balmentog - yn lle'r nodweddion dŵr a fu yno dros y blynyddoedd diwethaf.
  • Ardal balmentog well sy'n addas i gerddwyr ac yn hygyrch i bawb.
  • Llawer o le i bobl ddod ynghyd, eistedd y tu allan ac ymlacio - canolbwynt i bobl ddod ynghyd ac ar gyfer digwyddiadau fel y rhai a gynhaliwyd yno dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ystod y gwaith, bwriedir sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib - ac i'r holl fusnesau aros ar agor ac yn hygyrch.

Gallai Sgwâr y Castell ar ei newydd wedd agor tua diwedd 2026.

Os oes gennych unrhyw sylwadau am y datblygiad hwn e-bostiwch ni yn castlesq@abertawe.gov.uk

Golwg arfaethedig o Sgwâr y Castell o gylchfan Princess Way

Castle Square vision (view from Princess Way roundabout).

Cynllun Sgwâr y Castell

Cwestiynau cyffredin am Sgwâr y Castell

Cwestiynau cyffredin am y prosiect i ailddatblygu Sgwâr y Castell.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Mai 2025