Cŵn strae
Os yw ci'n crwydro'n rhydd mewn man cyhoeddus a heb fod dan reolaeth person, mae'n cael ei drin fel ci strae. Mae ein wardeiniaid cŵn yn delio ag adroddiadau am gŵn strae.
Mae'r cŵn sy'n cael eu codi oddi ar y strydoedd yn derbyn gofal da mewn cenelau am gyfnod o saith niwrnod, ar ôl y cyfnod hwnnw gallant gael eu hailgartrefu.
Os bydd ci strae yn cael ei ffaldio, bydd rhaid talu ffi rhyddhau (gan gynnwys unrhyw gostau milfeddygol) i'r Cyngor. Ni chaiff y ci ei ryddhau a'i ddychwelyd at ei berchennog tan i'r ffioedd gael eu talu'n llawn. Nid oes darpariaeth ar gyfer talu drwy randaliad. Dylid talu yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth.
Y ffi rhyddhau yw £115.50 â £19.50 am bob diwrnod/hanner diwrnod a dreulir yn y cyndy.
Beth dylwn ei wneud os yw fy nghi ar goll?
Os ydych wedi colli'ch ci ac rydych yn meddwl ei fod wedi'i godi fel strae, ebostiwch pest.control@swansea.gov.uk.
Beth dylwn ei wneud os wyf wedi dod o hyd i gi strae?
Yn ystod oriau swyddfa, ffoniwch ni ar 01792 635600 a daw warden anifeiliaid i gasglu'r ci gennych pan fydd hynny'n ymarferol bosib.
Gallwch fynd ag unrhyw gi strae yn ystod neu wedi oriau swyddfa, i bwynt derbyn y cyngor yn Swyddfa Ddiogelwch, Glanfa Pipehouse, Heol y Morfa, Abertawe SA1 2EN neu cadwch y ci tan y diwrnod gwaith nesaf a chysylltwch â'r cyngor i'w gasglu. Mae map o leoliad y Swyddfa Ddiogelwch, Glanfa Pipehouse isod.
Coleri a Thagiau
Mae'n drosedd i adael unrhyw gi mewn man cyhoeddus heb goler gydag enw a chyfeiriad y perchennog arno. Gallech gael dirwy o hyd at £500.
Ailgartrefu cŵn
Gallai cŵn strae rydym wedi'u casglu fod ar gael i'w hailgartrefu os nad ydynt yn cael eu casglu gan eu perchennog o fewn saith niwrnod. Polisi'r cyngor yw peidio ag ailgartrefu cŵn yn yr un ardal â lle'r oeddent ar grwydr. Rydym yn codi £127 i ailgartrefu ci strae.
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cartref i gi strae, ebostiwch pest.control@swansea.gov.uk. Bydd warden anifeiliaid yn cynnal gwiriad yn eich cartref os ydych yn byw yn Abertawe i sicrhau eich bod chi a'ch cartref yn addas ac yn barod i fod yn gartref newydd i gi strae.