Cyfle i ddweud eich dweud: Polisi Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol 2025
Hoffem glywed eich barn am ein Polisi Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol.
Fel y mwyafrif helaeth o gynghorau, mae Cyngor Abertawe yn codi tâl am y gwasanaethau gofal a chymorth rydym yn eu darparu. Y rheswm dros hyn yw heb yr incwm hwnnw, ni fyddai'n bosib darparu gofal cymdeithasol.
Caniateir i ni godi tâl o dan Ddeddf Gwasanaethau cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 cyhyd ag y bod y tâl yn rhesymol ac nad yw'n fwy na chost darparu'r gwasanaeth ac nad yw'n achosi caledi ariannol.
Bydd yr incwm a godir yn helpu i ddiogelu, cynnal, a ddatblygu gwasanaethau gofal a chymorth i ddiwallu anghenion oedolion y mae angen cefnogaeth arnynt yn ein hardal.
Fel rhan o'n gwaith i adolygu'r Polisi Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol, amlygwyd rhai newidiadau i daliadau presennol.
Mae'n bwysig nodi bod yr holl gleientiaid gofal cymdeithasol yn cymryd rhan mewn asesiad ariannol ar gyfer gwasanaethau â thâl i benderfynu ar uchafswm tâl sy'n gymwys iddynt hwy, yn seiliedig ar eu hamgylchiadau.
Cymerwch amser i ddarllen y ddrafft Polisi Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol ar Drafft ar gyfer Polisi Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol 2025.
Hoffem glywed eich barn am ein Polisi Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol, felly: A fyddech cystal â chymryd ychydig funudau i lenwi'r arolwg byr hwn
Dyddiad cau: Dydd Mercher 5 Mawrth 2025