Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflenwyr band eang

Mae 2 o gyflenwyr wrthi'n adeiladu seilwaith yn Abertawe. Pan fo modd, mae ein timau'n gweithio'n agos gyda nhw i gefnogi eu cyflwyniad masnachol ac unrhyw gynlluniau talebau cymunedol y maent yn eu cyflawni.

  1. Openreach (Yn agor ffenestr newydd)
  2. Netomnia (Yn agor ffenestr newydd)

Wrth i gysylltedd gwell ddod yn hanfodol ar gyfer bron pob cartref a busnes, mae'r farchnad yn agor a bellach mae mwy a mwy o opsiynau ar gael i ddefnyddwyr, gan olygu byd mwy cystadleuol.

Mae'r cyflenwyr mwy newydd hyn wedi cael y llysenw 'Altnets' wedi'i dalfyrru o 'Alternative Networks'. Mae'r cwmnïau hyn yn llai o ran maint ac yn tueddu i weithio'n fwy rhanbarthol, felly gallant fod yn llai adnabyddus yn aml. Gall Altnets fod yn ffactor pwysig i ddarparu cysylltedd mewn ardaloedd gwledig, ond rydych yr un mor debygol o ddod o hyd i altnets mewn trefi a dinasoedd hefyd.

Nid yw rhai altnets wedi agor eu rhwydwaith i Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISPs) eraill eto sy'n golygu eu bod yn gyfrifol am adeiladu'r rhwydwaith a'r unig opsiwn sydd ar gael ar gyfer eich gwasanaeth rhyngrwyd. 

Close Dewis iaith