Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwell Band eang

Mae technoleg ddigidol wrth wraidd bron pob agwedd ar fywyd cyfoes sy'n ymwneud â gwaith, teithio, hamdden ac iechyd, a bellach y mae mynediad da i'r rhyngrwyd yn cael ei ystyried gan lawer fel cyfleuster angenrheidiol.

Mae cysylltedd cyflym, dibynadwy yn hanfodol i gefnogi twf busnesau, helpu cymunedau gwledig i ffynnu, gwella iechyd a llesiant, a'i gwneud yn haws i bobl fynd ar-lein a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

Diffiniad band eang cyflym iawn yw cysylltiad â'r rhyngrwyd sydd â chyflymder lawrlwytho o fwy na 30mb yr eiliad. Mae gan 99.12% o  drigolion Sir Abertawe  fynediad i fand eang cyflym iawn ac mae dros 87.29% o'r Sir  Abertawe bellach â mynediad at gyflymder gigabit alluog.

Po fwyaf o unigolion sydd ar eich aelwyd yn defnyddio dyfeisiau sydd wedi'u cysylltu, y mwyaf y lled band y bydd ei angen arnoch er mwyn sicrhau nad yw'r gwasanaeth yn cael ei arafu neu'i golli. Os ydych yn ansicr am yr hyn sydd orau i'ch aelwyd neu'r hyn sydd ar gael yn  eich ardal, bydd yr adnoddau ar y dudalen hon yn eich helpu i wneud penderfyniad.

Gwella'ch band eang

Mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd i ddarganfod sut i gael band eang gwell.

Datrysiadau band eang

Mae cyflenwyr band eang ledled y DU yn uwchraddio eu rhwydweithiau i ffibr llawn. Bydd ffibr llawn yn rhoi mynediad i chi at fand eang cyflymach a mwy dibynadwy.

Cyflymder y rhyngrwyd

Mae yna wahanol ffactorau a fydd yn effeithio ar gyflymder eich cysylltiad.

Cyflenwyr band eang

Mae 2 o gyflenwyr wrthi'n adeiladu seilwaith yn Abertawe. Pan fo modd, mae ein timau'n gweithio'n agos gyda nhw i gefnogi eu cyflwyniad masnachol ac unrhyw gynlluniau talebau cymunedol y maent yn eu cyflawni.

Trosglwyddo o gysylltiadau copr i rai digidol

Mae gwasanaethau llinell dir traddodiadol, sy'n dibynnu ar gysylltiad copr, bellach yn newid i fersiwn ddigidol o'r enw Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP).

Gwella'ch sgiliau digidol

Gyda'r ystod o dechnoleg, meddalwedd ac offer sydd ar gael i ni, mae meddu ar sgiliau digidol da yn bwysicach nag erioed.

Cwestiynau cyffredin am fand eang

Cwestiynau cyffredin am fand eang a signal ffonau symudol.

Rhagor o wybodaeth am fand eang

Rhestr o sefydliadau eraill a all helpu gydag ymholiadau sydd gennych am fand eang.
Close Dewis iaith