Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno a monitro cynllunio

Bydd y cyngor yn monitro'r broses o gyflwyno'r cynigion cynllunio a hyrwyddir yn y CDLl, a bydd yn ceisio hwyluso gweithredu datblygiad drwy asesiadau perthnasol, gan gynnwys arfarniadau dichonoldeb ariannol.

Mae'r broses hon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod amcanion creu lleoedd y cyngor yn cael eu bodloni a bod y cynigion yn gallu symud tuag at y cam gweithredu yn y modd a rhagwelir. Mae'r dudalen hon yn nodi'r gwaith a wnaed a'r wybodaeth sydd ar gael mewn perthynas â monitro ac asesu cynlluniau datblygu.

Adroddiad Monitro Blynyddol

Cyflwynir Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) CDLl Abertawe i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn fel rhan statudol o broses y cynllun datblygu. Mae'n ffordd bwysig o fonitro gweithrediad ac effeithiolrwydd y CDLl ac yn y pen draw mae'n pennu a oes angen diwygio'r cynllun.

Mae'n asesu i ba raddau y bodlonir strategaeth y CDLl a'i brif amcanion, ac mae'n monitro a yw'r polisïau a'r cynigion amrywiol a nodir yn y cynllun yn llwyddiannus o ran datblygiadau'n mynd rhagddynt. Ar ôl cwblhau pob AMB, fe'u cyhoeddir ar y we-dudalen hon. 

Crynodeb Gweithredol Adroddiad Monitro Blynyddol 2022-2023 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (PDF) [340KB]

Crynodeb Gweithredol Adroddiad Monitro Blynyddol 2021-2022 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (PDF) [350KB]

Crynodeb Gweithredol Adroddiad Monitro Blynyddol 2020-2021 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (PDF) [295KB]

Crynodeb Gweithredol Adroddiad Monitro Blynyddol 2019-2020 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (PDF) [351KB]

E-bostiwch cdll@abertawe.gov.uk am ragor o fanylion mewn perthynas â'r adroddiadau monitro blynyddol neu os hoffech gael copi electronig o'r ddogfen lawn. 

Model Dichonoldeb Datblygu (MDD)

Mae'r cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â chynghorau eraill ar draws y rhanbarth, ochr yn ochr â'r ymgynghorwyr Cynllunio a Datblygu Trefi, Burrows-Hutchinson Ltd, i sefydlu offeryn asesu Model Dichonoldeb Datblygu (MDD). Crëwyd y MDD fel model cynhwysfawr hawdd ei ddefnyddio y gellir ei ddefnyddio gan hyrwyddwyr safleoedd a phenderfynwyr at ddiben asesu dichonoldeb ariannol cynnig datblygu.
Close Dewis iaith