Cyfraith bwyd a siopau cludfwyd
Yn ôl cyfraith bwyd, ni ddylai deunydd labelu, hysbysebu na chyflwyno bwyd, na'r wybodaeth sydd ar gael amdano, gamarwain cwsmeriaid.
Er mwyn i'r bwyd rydych yn ei werthu gael ei ddisgrifio'n gywir, gwiriwch y labeli, y manylebau, y dogfennau dosbarthu a'r anfonebau o ran bwyd a gaiff ei baratoi a chynhwysion. Gall manylebau nwyddau newid dros amser, felly gwiriwch yn rheolaidd.
Mae Penaethiaid Safonau Masnach Cymru (WHoTS) wedi llunio arweinlyfr i roi cyngor i siopau cludfwyd ar yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i gydymffurfio â chyfraith bwyd. Mae'r arweiniad hwn yn cwmpasu'r gofynion cyfreithiol sy'n cwmpasu'r meysydd safonau bwyd hyn:
- disgrifiadau sy'n berthnasol i fwyd a diod
- bwyd wedi'i addasu'n enetig a bwyd wedi'i arbelydru
- alergeddau bwyd
- lliwiau mewn cludfwydydd
- labelu bwyd
- samplu bwyd gan swyddogion awdurdodedig
- prisiau ac arddangos prisiau.
Mae'r arweinlyfr ar gael mewn tair ar ddeg o ieithoedd gwahanol ac ar gael i'w lawrlwytho o wefan Penaethiaid Safonau Masnach Cymru.
Mae'r arweinlyfr ar gael yn:
- Saesneg
- Cymraeg
- Bengaleg
- Cantoneg
- Hindi
- Cwrdeg
- Pwyleg
- Pwnjabeg
- Tsieinëeg wedi'i symleiddio
- Tsieinëeg traddodiadol
- Thai
- Twrcaidd
- Wrdw