Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfrifiad 2011

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2011 ddydd Sul 27 Mawrth.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2011 yng Nghymru a Lloegr gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).Yn dilyn paratoadau helaeth dros sawl blwyddyn, mae rhaglenni manwl ar waith yn awr i gasglu a phrosesu'r wybodaeth a chyflwyno canlyniadau'r cyfrifiad.

Cyhoeddodd SYG y canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2011 ar 16 Gorffennaf 2012, gyda chyfnodau rhyddhau pellach, data a chynhyrchion yn parhau hyd at ddiwedd 2014.

Mae gwybodaeth ychwanegol ac ystadegau o Gyfrifiad 2011 Abertawe ar gael drwy'r dolenni isod.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch ynghylch Cyfrifiad 2011 yn Abertawe, cysylltwch â ni.

Sylwer: ystadegau lleol a gwybodaeth o Gyfrifiadau cynharach - 2001 a 1991.

Cyfrifiad 2011: Ystadegau Allweddol ar gyfer Abertawe

Mae'r cyhoeddiad 'Ystadegau Allweddol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr' yn darparu gwybodaeth Cyfrifiad 2011 am boblogaeth leol a nodweddion aelwydydd ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

Cyfrifiad 2011: Adroddiadau ac ymchwil

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth a dadansoddiad o Gyfrifiad 2011 ar nodweddion poblogaeth ac aelwydydd yn Abertawe.

Cyfrifiad 2011: Ystadegau allweddol ar gyfer wardiau ac ardaloedd eraill

Mae'r dudalen hon yn darparu'r wybodaeth allweddol o Gyfrifiad 2011 a nodweddion y boblogaeth leol ar gyfer wardiau Abertawe ac ardaloedd eraill.
Close Dewis iaith