Y Cyfrifiad
Y Cyfrifiad yw'r arolwg sengl mwyaf o boblogaeth y DU.
Ei nod yw cyfrif pob person a chartref ar yr un pryd, a gofyn cyfres graidd o gwestiynau er mwyn cymharu gwahanol ardaloedd o'r wlad a grwpiau gwahanol o bobl.
Mae gwybodaeth y Cyfrifiad yn galluogi llywodraeth ganolog a lleol i dargedu adnoddau a chynllunio darparu gwasanaethau yn fwy effeithiol. Mae hefyd yn darparu ystod eang o wybodaeth ddemograffig, gymdeithasol ac economaidd at ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill, y sectorau busnes ac academaidd a'r gymuned.
Census 2021 - canlyniadau cyntaf: Cyhoeddodd SYG ganlyniadau'r cyfrifiad cyntaf ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr ar 28 Mehefin 2022. Am ragor o wybodaeth am y canlyniadau cychwynnol ar gyfer Abertawe, ewch i www.abertawe.gov.uk/Cyfrifiad2021canlyniadau.
Nodweddion poblogaeth: Mae ystod eang o ystadegau cyfrifiad 2021 ar gyfer Abertawe ar nodweddion poblogaeth ac aelwydydd ar gael yn y ddolen hon: www.abertawe.gov.uk/cyfrifiad2021abertawe.
Ystadegau ardaloedd lleol: Mae ystadegau'r Cyfrifiad ar gyfer ardaloedd lleol yn Abertawe ar gael yn ein proffiliau wardiau. Bydd rhagor o ystadegau Cyfrifiad 2021 ar gyfer ardaloedd lleol yn cael eu hychwanegu at ein tudalennau'n fuan.
Mae gwybodaeth gefndir am Gyfrifiad 2021 ar gael yn www.abertawe.gov.uk/cyfrifiad2021.
Ystadegau lleol a gwybodaeth o Gyfrifiadau cynharach: 2011, 2001, 1991.